POLISI PREIFATRWYDD DINAS GERDD CAERDYDD
Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Dinas Gerdd Caerdydd yn defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu’n cofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn negeseuon e-bost marchnata neu’n cystadlu yn ein cystadlaethau neu dynnu gwobrau.
Mae Dinas Gerdd Caerdydd yn rhan o Gyngor Caerdydd, y Rheolwr Data at ddibenion y data a gesglir. Prosesir yr holl ddata personol yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018.
Mae Dinas Gerdd Caerdydd yn casglu’r data canlynol:
- Enw
- Cyfeiriad e-bost
- Cod Post.
Cesglir hyn at ddiben derbyn diweddariadau sy’n ymwneud â cherddoriaeth, digwyddiadau, pethau i’w gwneud a mwy gan y tîm. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn un o nifer o brosiectau gan Ddinas Gerdd Caerdydd, a reolir gan Gyngor Caerdydd. O bryd i’w gilydd efallai y bydd cystadlaethau neu roddion hefyd gydag opsiwn i gael eich ychwanegu at y rhestr bostio marchnata.
Mae’r gyfraith Diogelu Data yn disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data fel un sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni (a) Caniatâd: mae’r unigolyn wedi rhoi caniatâd clir i chi brosesu ei ddata personol at ddiben penodol.
Rydych yn rhoi’r rhan fwyaf o’r data rydym yn ei gasglu i Ddinas Gerdd Caerdydd yn uniongyrchol. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn:
- Cofrestru i dderbyn negeseuon e-bost ar gyfer digwyddiadau a allai fod o ddiddordeb i chi.
- Wrth gymryd rhan mewn cystadleuaeth neu ddigwyddiad.
- Cwblhau arolwg cwsmeriaid yn wirfoddol neu’n rhoi adborth ar unrhyw un o’n byrddau negeseuon neu drwy e-bost.
- Defnyddio ein gwefan neu edrych arni trwy gwcis eich porwr.
Efallai y bydd Dinas Gerdd Caerdydd hefyd yn cael eich data yn anuniongyrchol o’r ffynonellau canlynol:
- Lle efallai eich bod wedi dewis derbyn ein deunyddiau marchnata gan bartner (er enghraifft, wrth brynu tocyn ar gyfer digwyddiad y mae Dinas Gerdd Caerdydd yn ymwneud â’i greu).
Mae Dinas Gerdd Caerdydd yn casglu eich data fel y gallwn:
- Brosesu eich archeb a rheoli eich cyfrif.
- Anfon e-bost atoch gyda newyddion am weithgareddau Dinas Gerdd Caerdydd – gan gynnwys yr ŵyl a chan bartneriaid.
- Anfon e-bost atoch gyda newyddion a chynigion arbennig am gynnyrch a gwasanaethau eraill y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt.
Cymryd rhan mewn cystadleuaeth neu rodd ac fel y gallwn gysylltu â chi am unrhyw wobr.
Mae Dinas Gerdd Caerdydd yn storio eich data yn ddiogel gyda systemau diogelu cyfrinair diogel a thrwy Mailchimp. Mae Mailchimp yn llwyfan awtomeiddio marchnata yn America, a thrwy glicio i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i’w phrosesu. Gallwch adolygu polisïau preifatrwydd Mailchimp i ystyried unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â darparu gwybodaeth bersonol y tu allan i’r UE, yma: https://mailchimp.com/legal/
Ar gyfer rhoddion a chystadlaethau, mae eich data hefyd yn cael ei storio trwy systemau diogelu cyfrinair diogel gyda Mailchimp a thrwy’r wefan trydydd parti Mailchimp
Bydd cystadlaethau neu dynnu gwobrau yn casglu eich data gan ddefnyddio Snap Surveys. Mae Snap Surveys Limited a Snap Surveys NH, Inc.(“Snap Surveys”, neu “ni”) wedi ymrwymo i barchu eich preifatrwydd a diogelu eich gwybodaeth bersonol. Mae eu polisi preifatrwydd yn disgrifio’r ffordd y maent yn casglu ac yn defnyddio’r wybodaeth bersonol y maent yn ei chasglu am ymwelwyr â’u gwefan a defnyddwyr ein cynnyrch a’n gwasanaethau: https://www.snapsurveys.com/survey-software/privacy-policy-us/
Bydd ffurflen Snap Survey yn casglu data sy’n cynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost a’ch cod post, gydag opsiwn i optio i mewn i restr bostio Dinas Gerdd Caerdydd (a hefyd optio i mewn i glywed gan bartneriaid, lle bo hynny’n briodol).
Bydd Dinas Gerdd Caerdydd yn cadw eich data cofrestru e-bost hyd nes y byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl neu nes bod tair blynedd wedi mynd heibio. Gallwch ddad-danysgrifio neu ddiweddaru eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio ar y ddolen yn nhroednodyn ein negeseuon e-bost neu drwy gysylltu â thîm Dinas Gerdd Caerdydd yn uniongyrchol yn musiccity@visitcardiff.com.
Ar gyfer data cystadleuaeth neu dynnu gwobrau, bydd y rhai nad ydynt wedi optio i mewn i dderbyn data marchnata yn cael eu storio hyd nes y bydd yr enillydd wedi’i hysbysu (am hyd at 3 mis). Ar ôl diwedd y cyfnod hwn, byddwn yn dileu eich data drwy ei ddileu o’n systemau.
Dymuna Dinas Gerdd Caerdydd anfon gwybodaeth atoch am ein cynnyrch a’n gwasanaethau y credwn allai fod o ddiddordeb i chi, yn ogystal â rhai ein cwmnïau partner.
Er nad ydym yn rhannu eich data personol gyda sefydliadau neu bartneriaid trydydd parti, efallai y byddwch yn derbyn negeseuon e-bost gennym yn eich cyfeirio at eu digwyddiadau a’u busnesau a’u gwasanaethau. Cliciwch ar yr opsiwn Dad-danysgrifio ar ein negeseuon e-bost marchnata neu e-bostiwch y tîm yn musiccity@visitcardiff.com os hoffech optio allan ar unrhyw adeg.
Os ydych wedi cytuno i dderbyn gohebiaeth farchnata, gallwch bob amser ddewis peidio â’i derbyn yn ddiweddarach.
Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i atal Dinas Gerdd Caerdydd rhag cysylltu â chi at ddibenion marchnata neu roi eich data i aelodau eraill Cyngor Caerdydd.
Os nad ydych yn dymuno i ni gysylltu â chi mwyach at ddibenion marchnata, cliciwch ar e-bost musiccity@visitcardiff.com
Dymuna Dinas Gerdd Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:
Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd am gopïau o’ch data personol.
Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd gwblhau’r wybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.
Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd ddileu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gyfyngu prosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu i Ddinas Gerdd Caerdydd brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd drosglwyddo’r data yr ydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.
Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â ni drwy ein cyfeiriad e-bost: diogeludata@caerdydd.gov.uk
Neu ysgrifennwch atom:
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Mae cwcis yn ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad defnyddwyr. Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau, mae’n bosibl y byddwn yn casglu data gennych yn awtomatig trwy gwcis neu dechnoleg debyg
I gael mwy o wybodaeth, ewch i allaboutcookies.org.
Mae gwefan Dinas Gerdd Caerdydd yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i’n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen eu polisi preifatrwydd nhw.
https://www.snapsurveys.com/survey-software/privacy-policy-us/
Mae Ein Cwmni yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 1 Mai 2024.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd Dinas Gerdd Caerdydd, y data rydym yn ei gadw amdanoch, neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio diogeludata@caerdydd.gov.uk neu drwy’r post:
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Dinas Gerdd Caerdydd wedi mynd i’r afael â’ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ei gwefan https://ico.org.uk/concerns/getting/ neu drwy ffonio 0303 123 1113.