Haf o Gerddoriaeth fyw Caerdydd i Roi Hwb Enfawr i Economi Canol y Ddinas
CAERDYDD AM BYTH YN AMCANGYFRIF HWB GWERTH MILIYNAU O BUNNOEDD I FUSNESAU HAMDDEN A THWRISTIAETH CANOL Y DDINAS
Mae canol dinas Caerdydd yn barod am haf arall sy’n torri recordiau wrth i don o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw mawr gyrraedd y brifddinas – gan ddod â channoedd o filoedd o ymwelwyr, cynyddu nifer yr ymwelwyr a chyfrannu £miliynau at yr economi leol.
Mae Caerdydd AM BYTH, Ardal Gwella Busnes canol y ddinas, yn tynnu sylw at ddychweliad digwyddiadau mawr ar draws sawl lleoliad gan gynnwys Stadiwm Principality, Castell Caerdydd a Chaeau’r Gored Ddu fel cyfle economaidd mawr i fusnesau canol y ddinas.
Gyda mwy na 30 o gigs mawr wedi’u trefnu rhwng 1 Mehefin a 31 Awst 2025, a phresenoldeb cyfunol disgwyliedig o fwy na 900,000 o bobl, mae’r ddinas yn barod ar gyfer un o’i hafau prysuraf hyd yn hyn.
Mae Y Gored Ddu yn Fyw, cyfres o gyngherddau awyr agored newydd sbon yng Nghaeau’r Gored Ddu, ymhlith yr ychwanegiadau mwyaf cyffrous. Wedi’i raglennu gan DEPOT Live a Cuffe & Taylor, mae’n dod ag artistiaid o fri rhyngwladol megis Noah Kahan, Kings of Leon, Alanis Morissette, Slayer a Stevie Wonder i leoliad canolog ychydig funudau i ffwrdd o Gastell Caerdydd a bariau, bwytai, gwestai a siopau canol y ddinas.
Yn hollbwysig, mae disgwyl i’r gyfres newydd hon fywiogi adeg o’r haf sy’n arfer bod yn dawelach ar gyfer busnesau manwerthu a lletygarwch yng nghanol y ddinas. Mae llawer o’r digwyddiadau yn cael eu cynnal yng nghanol yr wythnos, gan roi hwb mawr ei angen i fusnesau lleol ar adegau pan fydd masnachu’n aml yn llai.
“Nid cerrig milltir diwylliannol yn unig yw’r cyngherddau hyn – maen nhw’n beiriannau economaidd,” meddai Carolyn Brownell o Caerdydd AM BYTH.
“Maen nhw o fudd i bawb – o westai a bwytai i yrwyr tacsis, gweithredwyr manwerthu a lleoliadau hwyr y nos. Gyda chyfran sylweddol o docynnau yn cael eu gwerthu i ymwelwyr y tu allan i’r dref, mae’r effaith yn lledaenu ymhell y tu hwnt i’r lleoliadau eu hunain.”
Yn ôl data gwerthu tocynnau gan DEPOT Live er enghraifft, dim ond 37% o docynnau a werthwyd hyd yma ar gyfer cyfres o gigs Y Gored Ddu yn Fyw sydd i’r rhai â chod post CF, sy’n dangos pŵer y digwyddiadau hyn i ddenu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a’r DU – bydd llawer ohonynt yn aros dros nos, yna’n siopa, yn yfed ac yn bwyta yn y ddinas.
Mae hyn yn adeiladu ar y cynsail a grëwyd gan ddigwyddiadau llwyddiannus y llynedd. Yn ôl HelloTickets, cyfrannodd Taith Eras Taylor Swift filiynau at economi Caerdydd yn ystod sioe un noson, diolch i’r mewnlifiad helaeth o gefnogwyr a arweiniodd at fwy o wariant ar draws lletygarwch, teithio a manwerthu. Amcangyfrifwyd bod ymweliad Taylor wedi arwain at gynnydd 902% mewn gwariant twristiaeth ym mhrifddinas Cymru.
Roedd rhai busnesau yng nghanol y ddinas yn gyflym i weld y cyfle; fe wnaeth cefnogwyr Taylor Swift oedd yn ymweld â Chanolfan Siopa Dewi Sant ar ddiwrnod y cyngerdd dderbyn un o 2,000 o becynnau gwneud breichledau cyfeillgarwch am ddim yn ‘Nhwba Lwcus Breichledau Cyfeillgarwch Dewi Sant’ i ddathlu’r daith. Roedd y pecynnau breichledau wedi’u dylunio a’u comisiynu gan Ganolfan Siopa Dewi Sant ac maen nhw’n cynnwys teitlau caneuon Taylor Swift o’i 11 albwm stiwdio.
Yn y cyfamser, fe wnaeth bar coctel arobryn Labor22 gydweithio â Cazcabel Tequila i gynnal noson ‘Tequila Swift’ a oedd yn cyfuno bwydlen goctels unigryw wedi’i seilio ar tequila gyda rhestr chwarae Taylor Swift, yn ogystal â gweddnewid décor y lleoliad, ac ychwanegu garnisiau coctels ar y thema. Esboniodd y perchennog Tani Hasa,
“Mae cefnogwyr yn teithio o bob cwr o’r byd i weld eu hoff artist/bandiau a byddan nhw bob amser yn chwilio am lefydd cyffrous sy’n croesawu eu hegni ac i gael amser arbennig.”
Drwy gydol 2025, bydd Caerdydd yn cynnal mwy na 30 noson o gerddoriaeth fyw yn Stadiwm Principality – lleoliad o fri rhyngwladol gyda lle ar gyfer dros 70,000 – gan gynnwys Lana Del Rey, Kendrick Lamar & SZA, Oasis, Stereophonics, Chris Brown a Catfish & the Bottlemen. Yn ogystal â hyn bydd rhestr wych o sêr nodedig yng Nghastell Caerdydd gydag artistiaid fel Tom Jones, Sting a Basement Jaxx yn brif actau dros yr haf, ac mae’n amhosibl anwybyddu’r cyfle economaidd o galendr mor drawiadol o ddigwyddiadau byw.
Am yr haf o gerddoriaeth sydd i ddod yng Nghaerdydd, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke,
“Mae cerddoriaeth fyw wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer Caerdydd. Bydd digwyddiadau’r haf hwn yn helpu i gadarnhau statws y ddinas fel cyrchfan y mae’n rhaid i artistiaid mawr berfformio ynddi, gan ddod â buddion economaidd sylweddol a’n helpu i barhau i gyflawni ein strategaeth ‘dinas gerdd’ hirdymor i ddiogelu a datblygu pob lefel o’r sector cerddoriaeth a gosod Caerdydd fel cyrchfan twristiaeth gerddoriaeth flaenllaw.”
Bydd Caerdydd AM BYTH yn gweithio’n agos gyda’i 800+ o fusnesau aelod, i’w helpu i achub ar y cyfleoedd sydd o’u blaenau. Gan ganolbwyntio ar hyrwyddo gweithgareddau a digwyddiadau sy’n cefnogi busnesau lleol ac yn gwneud y mwyaf o fywiogrwydd canol y ddinas, mae Caerdydd AM BYTH hefyd wedi buddsoddi mewn cynlluniau i hyrwyddo amgylchedd diogel a chroesawgar yn ystod y nos – gan gynnwys Tîm Marsialiaid Nos, Bugeiliaid Stryd a’r Bws Diogelwch i Fyfyrwyr. Yn ogystal, mae cynlluniau fel y Siarter Diogelwch Menywod ac Ask for Angela ar waith i sicrhau bod lleoliadau’n chwarae rôl weithredol wrth ddiogelu unigolion agored i niwed.
Gorffennodd Carolyn trwy ddweud,
“Mae digwyddiadau mawr fel y gigs haf hyn yn hanfodol i ddenu cynulleidfaoedd newydd ac adfywio’r stryd fawr, ac yn Caerdydd AM BYTH rydyn ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod Caerdydd yn ffynnu fel prifddinas ddeinamig ac economaidd gadarn sy’n ddiogel ac yn groesawgar i bawb, ac yn cystadlu’n gryf ymhlith dinasoedd gorau’r DU i ymweld â nhw.”