Neidio i'r prif gynnwys
Beth yw Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd?
  • Barod am dair wythnos o gigs, digwyddiadau ymdrochol, preswylfeydd, gosodiadau a phop-yps sy’n gwthio ffiniau arloesedd, perfformiad a thechnoleg cerddoriaeth? Croeso i Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, sy’n ailddychmygu’r hyn y gall gŵyl gerddoriaeth fod.
  • Cefnogir Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.
Pryd a ble mae'r ŵyl?
  • Cynhelir Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gyntaf ar draws prifddinas Cymru o 27 Medi tan 20 Hydref 2024. Mae’r noson agoriadol yn cynnwys Leftfield ac Orbital (ynghyd â gwesteion arbennig) yn Utilita Arena Caerdydd.
  • Gyda’r nod o ddenu dros 20,000 o bobl, bydd yr ŵyl yn dod â thalent ryngwladol a lleol ynghyd, gan gynnwys enwau cyfarwydd a thalent syfrdanol newydd. Mae safle’r ŵyl yn ymestyn drwy labyrinth o ofodau – strydoedd prysur a chorneli tawelach – trwy ganol dinas deinamig Caerdydd i aber afon a llyn dŵr croyw Bae Caerdydd.
  • Ymhlith y lleoliadau mae Utilita Arena Caerdydd, Eglwys Gadeiriol Llandaf, Canolfan Mileniwm Cymru, Y Neuadd Fawr, Tramshed, Clwb Ifor Bach, CULTVR, Cornerstone, The Moon, Fuel, Porters a Depot, yn ogystal â mannau cyhoeddus wedi’u hail-ddychmygu. Bydd yr ŵyl cerddoriaeth newydd enwog, Sŵn (sy’n prysur nesáu at ei hugeinfed flwyddyn) a phenwythnos celfyddydau rhyngwladol Canolfan y Mileniwm, Llais (sy’n dathlu amrywiaeth y llais ledled y byd ac ar draws genres) yn dod yn rhannau hanfodol o’r ymdrech fawr, uchelgeisiol hon.
  • Bydd seinluniau trefol a gomisiynwyd yn arbennig, cynhadledd dechnoleg a thalent, sesiynau diwydiant a rhaglen ymylol brysur yn ychwanegu haenau ychwanegol o rythm a sŵn at gyrhaeddiad blaengar a brwdfrydig yr ŵyl. Bydd nosweithiau gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd hefyd yn dod â rhai enwau mawr yn y diwydiant ynghyd â thalentau’r dyfodol.
  • Gyda’r bwriad o herio, cyffroi ac ysbrydoli ffans ar draws cenedlaethau a genres, a darparu llwyfannau ac arddangosfeydd ar gyfer syniadau, synau a chydweithrediadau radical, bydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn torri tir newydd mewn ffyrdd aflonyddus, dargyfeiriol ac ysblennydd. Bydd hefyd yn tanio hwyliau dinas gyfan, gan gyflwyno profiadau cyfunol cydamserol, gan droi’r sŵn i fyny mewn dathliad torfol o’r hyn y gall cerddoriaeth fod, a beth – yn ein breuddwydion gwylltaf, mwyaf swnllyd – y gall ei wneud.
Pa ddigwyddiadau sy'n digwydd fel rhan o'r ŵyl?
  • Mae’r noson agoriadol yn cynnwys Leftfield ac Orbital (ynghyd â gwesteion arbennig) yn Arena Utilita Caerdydd.
  • Bydd yr ŵyl cerddoriaeth newydd enwog, Sŵn (sy’n prysur nesáu at ei hugeinfed flwyddyn) a phenwythnos celfyddydau rhyngwladol Canolfan y Mileniwm, Llais (sy’n dathlu amrywiaeth lleisiau ledled y byd ac ar draws genres) yn dod yn rhannau hanfodol o’r ymdrech fawr, uchelgeisiol hon.
  • Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd rhaglen lewyrchus o artistiaid yn cael ei rhyddhau, ond am y tro, cofiwch gadw’r dyddiad yn rhydd a gwneud cynlluniau i ymweld â Chaerdydd yn ystod y cyfnod hwn i brofi dechrau rhywbeth arbennig iawn, iawn.
  • Am ddiweddariadau, edrychwch yn ôl yma ar ein gwefan, cofrestrwch i’n rhestr bostio, dilynwch ni ar ein sianeli cymdeithasol.
Sut ydw i'n prynu tocynnau?
  • Mae tocynnau ar gyfer rhannau unigol o’r sesiwn ar gael i’w prynu drwy ein tudalen BE SY’ MLAEN.
  • Mae tocynnau ar gyfer noson agoriadol (Leftfield/Orbital yn Arena Utilita Caerdydd) yn cael eu prynu drwy Ticketmaster.
  • Mae Gŵyl Sŵn yn cynnig nifer o opsiynau tocynnau gan gynnwys tocyn 3 diwrnod, tocyn 2 ddiwrnod a chyfraddau rhatach.
  • Codir tâl am sioeau Llais fesul digwyddiad, gyda gostyngiad wrth brynu tocynnau ar gyfer sawl sioe.
  • Edrychwch yn ôl yma / dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol / cofrestrwch i’n e-hysbysiad am fwy o gyhoeddiadau (gan gynnwys rhannau o’r rhaglen am ddim)
Sut ydw i'n cyrraedd Caerdydd?
  • Mae Caerdydd yn ddinas hawdd ei chyrraedd. Gyda chymaint o ffyrdd o deithio yma, does dim esgus i beidio ag ymweld â ni. Mae gan Gaerdydd ei maes awyr ei hun; cysylltiadau rheilffordd cyflym o Lundain; mae traffordd yr M4 yn mynd heibio gogledd y ddinas; a gallwch hyd yn oed ei chyrraedd ar long! Byddem wrth ein bodd yn eich croesawu, felly pam oedi?
  • Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen CYRRAEDD YMA.
Ble alla i barcio?
  • Rydym yn annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bynnag y bo modd.
  • Gellir dod o hyd i opsiynau parcio ar safle Croeso Caerdydd YMA.
A oes unrhyw gyfyngiadau oedran?
  • Mae nifer o wahanol fathau o ddigwyddiadau ar draws yr ŵyl, wedi’u hanelu at amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
  • Edrychwch ar y digwyddiad yr hoffech ei fynychu yn BE SY’ MLAEN am arweiniad.

CADWCH YN GYFOES

Cofrestrwch ar gyfer Dinas Gerdd Caerdydd i dderbyn diweddariadau cyffrous yn ymwneud â cherddoriaeth, digwyddiadau, pethau i'w gwneud a mwy gan y tîm. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn un o nifer o brosiectau gan Ddinas Gerdd Caerdydd, a reolir gan Gyngor Caerdydd.