Dydd Mercher, 1 Hydref 2025
O 3 i 18 Hydref, bydd prifddinas Cymru’n dod yn fyw pan fydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn dychwelyd am ei hail flwyddyn – dathliad pythefnos o hyd fydd yn llawn gigs, digwyddiadau, sgyrsiau, gosodweithiau celf a safleoedd dros dro, gan harneisio pŵer cerddoriaeth, perfformio a thechnoleg i uno ac ysbrydoli.
Ar ôl haf lle roedd llygaid y byd ar Gaerdydd wrth i daith ddychwelyd Oasis gychwyn yn y ddinas, mae’r ŵyl yn foment nodedig yn Strategaeth Gerddoriaeth Cyngor Caerdydd. Mae’r cynllun uchelgeisiol hwn wedi trawsnewid prifddinas Cymru’n un o brif ddinasoedd cerddoriaeth y DU, gyda cherddoriaeth fyw bellach yn cyfrannu cannoedd o filiynau bob blwyddyn at yr economi ac yn cefnogi miloedd o swyddi.
Trwy fuddsoddiad strategol mewn lleoliadau, cymorth i gerddorion sy’n dod i’r amlwg, a mentrau fel y Gronfa i Leoliadau Cerddoriaeth Llawr Gwlad, mae Cyngor Caerdydd wedi sicrhau bod y ddinas, yn ogystal â denu artistiaid teithiol rhyngwladol, yn meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent, llwyfannau a mannau.
Yn ogystal â’r cymorth hwn ar lawr gwlad, mae seilwaith yn cael ei ddatblygu gyda rhawiau yn y ddaear ar arena dan do newydd â lle i 16,500 o bobl, y rhagwelir y bydd yn cynhyrchu £100m bob blwyddyn ar gyfer economi De Cymru a dyfodol Neuadd Dewi Sant, Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, a sicrhawyd mewn cytundeb gydag AMG i gyflwyno lleoliad cerddoriaeth cyntaf yr Academi yng Nghymru.
Bydd yr ŵyl eleni yn cynnwys mwy na 200 o berfformiadau mewn mwy nag 20 lleoliad dros 15 diwrnod a bydd yn cynnwys noson gyda CVC y gwerthwyd pob tocyn ar ei chyfer a fydd yn agor yr ŵyl yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru; dychwelyd adref i’r cerddorion indie Los Campesinos!, a ddisgrifiwyd gan Pitchfork fel ‘band cwlt mwyaf apelgar yr 21ain ganrif’; y 15fed seremoni Gwobr Cerddoriaeth Gymreig flynyddol; gŵyl ddarganfod cerddoriaeth Sŵn; cyngerdd gala Canwr y Byd Caerdydd y BBC; Gŵyl Llais Canolfan Mileniwm Cymru, gyda Rufus Wainwright, Cate Le Bon a pherfformiad prin i’r DU gan Meredith Monk yn archwilio posibiliadau’r llais dynol, ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau trochi.
Wrth wraidd y strategaeth mae cymorth i wneuthurwyr cerddoriaeth a lleoliadau lleol, yn ogystal ag ail-lunio seilwaith diwylliannol y ddinas:
- Buddsoddodd y Gronfa i Leoliadau Cerddoriaeth Llawr Gwlad mewn 17 lleoliad y llynedd, gan helpu canolfannau creadigol newydd a lleoliadau annwyl i ehangu a gwella eu cynnig, ac adeiladu ar waith y Cyngor i sicrhau cartref newydd i Sustainable Studios/Y Canopi a chefnogi adleoli Porter, gan eu galluogi i ffynnu.
- Mae mentrau fel Little Gigs Bach, a ariennir gan Gyngor Caerdydd, yn darparu mynediad i offerynnau a gwersi i blant a fyddai fel arall yn colli allan – gan sicrhau y gall y genhedlaeth nesaf o gerddorion ffynnu.
- Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ailddatblygu adeilad hanesyddol yr ‘Hen Lyfrgell’ yng nghanol y ddinas yn ganolfan ymarfer, dysgu a pherfformiad cyhoeddus, gan atgyfnerthu rôl Caerdydd fel canolfan addysg ac arloesi mewn cerddoriaeth.
Cadarnhaodd haf 2025 fod Caerdydd yn lle y mae’n rhaid ei berfformio ar deithiau byd-eang, gyda dros 900,000 o gefnogwyr yn mynd i ddigwyddiadau byw ledled y ddinas. Pan ofynnwyd pam y dewisodd Oasis y ddinas ar gyfer eu taith fyd-eang, dywedodd Liam Gallagher: “oherwydd mai Caerdydd yw’r b*ll*x”. Gyda’i gilydd, cafodd y digwyddiadau hyn effaith economaidd o fwy na £90m i brifddinas Cymru.
Yn y cyfamser, mae sîn lawr gwlad ac annibynnol y ddinas yn parhau i ffynnu, gyda pherfformiadau fel Panic Shack, CVC, Mace the Great a Melin Melyn yn ennill clod rhyngwladol gan leoliadau megis Clwb Ifor Bach.
Dywedodd y Cynghorydd Jen Burke, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau Cyngor Caerdydd,
“Mae Caerdydd wastad wedi bod yn ddinas gyda cherddoriaeth yn ei gwaed. Nod ein Strategaeth Gerddoriaeth yw rhoi hynny wrth wraidd sut rydym yn tyfu – buddsoddi mewn lleoliadau, cefnogi pobl ar lawr gwlad, a chreu cyfleoedd i artistiaid ar bob lefel. Rydyn ni nawr yn gweld y canlyniadau: mae artistiaid mawr byd-eang eisiau chwarae yma, mae lleoliadau ar lawr gwlad yn ffynnu, ac mae’r genhedlaeth nesaf o gerddorion yn datblygu ei llais ei hun. Un ffordd yn unig o ddathlu’r hyn sy’n digwydd yw Gŵyl Ddinas Gerdd Caerdydd – ond mae hon yn ymwneud â mwy na gŵyl. Mae’n ymwneud â gwneud Caerdydd yn ddinas gerddoriaeth o’r radd flaenaf am ddegawdau i ddod.”
Meddai XXXX, sy’n perfformio yng Ngŵyl Dinas Gerdd Caerdydd:
I gael mwy o wybodaeth am Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, ewch i: https://dinasgerddcaerdydd.cymru/
Amserlen Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd:
Dyddiad | Digwyddiad | Lleoliad |
Dydd Gwener 3 Hydref | Noson yng nghwmni CVC
|
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru |
Dydd Gwener 3 Hydref | MPH + Ben Cripps + Shep + Viewpoints | District |
Dydd Gwener 3 – dydd Sadwrn 18 Hydref | Llais: Ceci est mon coeur
|
Canolfan Mileniwm Cymru |
Dydd Sadwrn 4 Hydref | Gwobrau Cerddoriaeth Du Gymreig 2025 | Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) |
Dydd Sadwrn 4 Hydref tan ddydd Sul 5 Hydref | Dr Banana + Laidlaw + Lucas Alexander | District |
Dydd Sul 5 Hydref | Tom Rasmussen + Alfie Sharp | Clwb Ifor Bach |
Dydd Llun 6 Hydref | Gwobr Cerddoriaeth Cymru 2025 | Canolfan Mileniwm Cymru |
Dydd Mawrth 7 Hydref | Pino Palladino & Blake Mills gyda Sam Gendel a Chris Dave | The Gate |
Dydd Mercher 8 Hydref | BBC Canwr y Byd Caerdydd Dathliad | Canolfan Mileniwm Cymru |
Dydd Mercher 8 Hydref | COPA – Wrkhouse, Adjua, Casper James, Bruna Garcia | The Gate |
Dydd Iau 9 Hydref – dydd Sul 12 Hydref | Gŵyl Llais | Canolfan Mileniwm Cymru |
Dydd Iau 9 Hydref | SATORU: Catrin Finch & Lee House | Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) |
Dydd Gwener 10 Hydref | Mali Hâf | Clwb Ifor Bach |
Dydd Gwener 10 Hydref | Robert Forster | The Gate |
Dydd Gwener 10 Hydref | Blodeugerdd: Y Llyfr Caneuon Cymreig Mawr | Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) |
Dydd Sadwrn 11 Hydref | TEAK: Go Into the Light gydag Esther, Rikki Humphery, Seka, David J Bull, James Teak | Jacobs Basement |
Dydd Sadwrn 11 Hydref | DISCOMASS | Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr |
Dydd Sadwrn 11 Hydref | Ensemble Ismael / Perfformiad Trochi Byw | Cult VR |
Dydd Sadwrn 11 Hydref | Redzed + gwesteion arbennig Acid Rowe | Clwb Ifor Bach |
Dydd Sul 12 Hydref | Los Campesinos! | Y Plas |
Dydd Sul 12 Hydref | New Model Army | Tramshed |
Dydd Mawrth 14 Hydref | Somebody’s Child | The Gate |
Dydd Mercher 15 Hydref | Ddwy + Esther + Pypi Slysh | Paradise Garden |
Dydd Iau 16 Hydref – dydd Sadwrn 18 Hydref | Sŵn 2025 | Amrywiol |
Dydd Iau 16 – dydd Gwener 17 Hydref | Sŵn Connect 2025 | Cornerstone |
Dydd Iau 16 Hydref | Uwchgynhadledd Gwyliau Cymru | Cornerstone |
Dydd Iau 16 Hydref | Entangled Structures | MONOCOLOR | Cult VR |
Dydd Iau 16 Hydref | Spyres + gwesteion arbennig Masa & Vain | Paradise Garden |
Dydd Gwener 17 Hydref | Beardyman / Perfformiad Trochi Byw | Cult VR |
Dydd Gwener 17 Hydref | The Gotobeds | Paradise Garden |
Dydd Sadwrn 18 Hydref | Seth Lakeman | The Gate |
Dydd Sadwrn 18 Hydref | Max Dean | DEPOT |
Mae amserlen lawn gyda mwy o sioeau, sgyrsiau a syrpreisys ar gael ar wefan Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd