Neidio i'r prif gynnwys

Terri Walker + Anwar Siziba + Aisha Kigs

Dyddiad(au)

20 Hyd 2024

Amseroedd

19:00

Lleoliad

The Globe, 125 Heol Albany, Caerdydd, CF24 3NS

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

TÂN YN CYFLWYNO: Terri Walker + Anwar Siziba + Aisha Kigs
Dan ofal Treubeatz

Paratowch ar gyfer noson fythgofiadwy o gerddoriaeth a pherfformiadau bythgofiadwy yn y Globe Caerdydd ar 20 Hydref ar gyfer Sioe Derfynol GDGC!

Peidiwch â cholli’r cyfle i fwynhau goreuon o blith talentau Soul a R&B y DU wrth i ni gloi’r ŵyl gyda noson i’w chofio.

Terri Walker, cerddor soul heb ei ail o Lundain, fydd y prif berfformiwr. Yn adnabyddus am ei llais cyfoethog ac emosiynol a’i gydweithrediadau gydag artistiaid fel Mos Def ac Omar, mae perfformiadau Terri bob amser yn cael derbyniad anhygoel. Bydd soul pur a gwych yn eich disgwyl!

  • Bydd Anwar Siziba, un o’r sêr R&B newydd mwyaf cyffrous, â’i lais llyfn, ei eiriau twymgalon a’i ganeuon pwerus yn llenwi’r llwyfan, mewn perfformiad na fyddwch am ei golli.
  • Bydd Aisha Kigs yn ychwanegu ei chyfuniad unigryw o alawon soul ac emosiwn amrwd, yn swyno cynulleidfaoedd gyda phob nodyn.
  • Ac i goroni’r cyfan, bydd ein cyflwynydd TREUBEATZ—a agorodd y sioe ar gyfer i Ms Lauryn Hill & The Fugees yn ddiweddar yng Nghaerdydd—yn cychwyn y noson gyda’i sain unigryw ei hyn ac yn cadw’r egni’n uchel drwy gydol y nos.

Mae’r drysau’n agor am 7:00 pm, a’r sioe yn dechrau am 7:30pm.

Dim ond £5 (+Fees) yw tocynnau ymlaen llaw, a bydd nifer gyfyngedig o docynnau ar gael wrth y drws (prisiau rhwng £8-£10).

Cynnig arbennig: os oes gennych docyn ar gyfer sioe y Children of Zeus eisoes, cewch fynediad am ddim i’r digwyddiad hwn, a bydd eich tocyn yn dal yn ddilys ar gyfer sioe Children of Zeus sydd wedi’i haildrefnu ar gyfer 8 Rhagfyr.
Dyma sioe olaf yr ŵyl – boed i ni ei gorffen gyda dathliad o gerddoriaeth fyw, vibes gwych, a chymuned! Peidiwch â cholli’r cyfle!

AR GYFER POBL SYDD EISOES Â THOCYN sioe Children of Zeus:
I’n holl gefnogwyr gwych sydd eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer sioe Children of Zeus, rydym yn falch o allu cynnig mynediad am ddim i’r sioe ‘Tân yn Cyflwyno: Terri Walker a’i Gwesteion.’ Bydd eich tocyn presennol yn rhoi mynediad am ddim i chi i’r perfformiad arbennig hwn ond bydd hefyd yn dal yn ddilys ar gyfer y sioe newydd Children of Zeus, sydd bellach wedi’i threfnu ar gyfer 8 Rhagfyr. Os na allwch ddod i’r dyddiad newydd, bydd ad-daliadau ar gael ar gais. Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu gyda chi i gyd!

CADWCH YN GYFOES

Cofrestrwch ar gyfer Dinas Gerdd Caerdydd i dderbyn diweddariadau cyffrous yn ymwneud â cherddoriaeth, digwyddiadau, pethau i'w gwneud a mwy gan y tîm. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn un o nifer o brosiectau gan Ddinas Gerdd Caerdydd, a reolir gan Gyngor Caerdydd.