Llais · Oramic Waves: Parti Creu Pecyn o Samplau gyda Natalie Roe

Dyddiad(au)

10 Hyd 2026

Amseroedd

13:00

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru Bute Place Caerdydd CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Ymunwch â’r artist a enillodd Wobr Oram yn 2023, Natalie Roe, mewn gweithdy archwiliadol tair awr sy’n cyflwyno ac yn datblygu profiad cyfranogwyr o ddefnyddio samplau wedi’u recordio mewn cerddoriaeth. Mae’r gweithdy yma ar gyfer menywod a chyfranogwyr nad
ydyn nhw’n cydymffurfio o ran eu rhywedd.

Yn ystod y sesiwn, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i greu cronfa o synau a chlipiau cerddoriaeth byr, gan ddefnyddio’r llais ac offerynnau electronig. Dan arweiniad Natalie Roe, bydd hon yn sesiwn chwareus i ddatblygu pecyn samplau gyda’n gilydd, a gall y cyfranogwyr wedyn fynd ag ef adref gyda nhw i greu ymhellach.

Mae Natalie Roe yn gyfansoddwraig, yn gynhyrchydd ac yn artist electronig sy’n gweithio rhwng Caerdydd a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae hi’n cyfuno synau acwstig ac electronig â chyfryngau eraill mewn amrywiaeth o brosiectau amlddisgyblaethol. Mae hi’n arbenigo mewn perfformio tirluniau sain electronig yn fyw gyda syntheseisydd modiwlaidd a ddefnyddir ganddi yn aml i drin a manipwleiddio synau o’r byd go iawn.

Amlinelliad y sesiwn:

  • Croeso a chyflwyno’ch hun
  • Perfformiad fer o’r synth modwlar a llais
  • Rhaniad o broses greadigol Natalie a’r lleisydd
  • Dangosiad o’r dechnoleg – yn enwedig y synth modwlar
  • Amser archwilio, cyfranogwyr mewn grwpiau, parau, neu’n unigol yn creu seiniau lleisiol ac electroneg
  • Recordiad o samplau trwy gydol yr amser archwilio
  • Rhannu’ch profiad, seiniau, a’ch sylwadau i gloi.

Yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.