Llais · Oramic Waves Sesiwn Cymdeithasu

Dyddiad(au)

11 Hyd 2026

Amseroedd

13:00

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru Bute Place Caerdydd CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Digwyddiad cymunedol, mewn cydweithrediad â’r Oram Awards a Tŷ Cerdd, sy’n gyfle i artistiaid arbrofol ac archwiliadol, cynulleidfaoedd a threfnwyr llawr gwlad ddod at ei gilydd i rannu profiadau a mwynhau bwyd a cherddoriaeth wych!

Bydd croeso i bob math o ffyrdd o ymgysylltu â’r gymuned, a lle i gymryd rhan lawn mewn sgyrsiau, yn ogystal ag opsiynau ar gyfer mannau tawel i ffwrdd o brysurdeb y digwyddiad, ynghyd â gorsafoedd gwrando gyda chlustffonau wedi’u gosod o amgylch y lleoliad. Bydd y sesiwn gymdeithasol a’r bwyd (gyda darpariaeth ar gyfer pob math o ddeiet) yn ffurfio rhan gyntaf y digwyddiad, ac yna byddwn yn symud ymlaen at berfformiadau gan:

Rachel Devorah Rome a Pam Rose Cott

Perfformiad byrfyfyrio byw am y tro cyntaf rhwng dau artist sydd â gwreiddiau dwfn mewn arferion arbrofol.

May Swoon / Neo Ukandu

Mae Neo Ukandu yn artist anabl sy’n unigryw ac arloesol ym myd cerddoriaeth bop arbrofol ac indi-electronica Cymru.

Rachel Devorah Rome – enillydd Gwobr Oram 2026

Mae Rachel Devorah Rome yn gerddor electronig sy’n gwerthfawrogi amynedd peiriannau a’u gallu i gofio. Mae ganddi ddiddordeb yn y tebygrwydd rhwng priodweddau ffisegol lleoliadau a’u hystyron cymdeithasol. Mae Rachel yn creu cerddoriaeth fyrfyfyr fyw ar y cyd ag artistiaid o amrywiaeth o genres.

Pam Rose Cott – artist Tŷ Cerdd

Mae Pam Rose Cott yn lleisydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith yn bodoli’n bennaf ym myd creu sioe, perfformio a sain fyrfyfyr, ac mae bellach wedi ymestyn am y tro cyntaf i ryddhau’n swyddogol, ‘Nosegay’ (sef tusw bach o flodau a gâi ei wisgo gan fenywod o flaen eu hwynebau i’w hamddiffyn rhag arogleuon drwg a chlefydau). Mae hi’n perfformio er mwyn archwilio cynddaredd, dygnwch, bregusrwydd a chysylltiad.

May Swoon / Neo Ukandu – enillydd Gwobr Oram 2026

Mae Neo yn arwain dau brosiect arloesol, sef May Swoon a Friends Are Evul. Caiff Neo foddhad wrth arbrofi gyda dulliau DIY ac elfennau annisgwyl, gan ddefnyddio sŵn, effeithiau ‘glitch’, samplwyr caledwedd a phatrymau syntheseisydd personol i greu traciau. Mae Neo yn frwd dros rannu’r broses o greu cerddoriaeth electronig arbrofol gyda chyfoedion anabl, trwy ryddhau a gwrthwynebu.

Yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.