Marchnad Nos Dinas Gerdd Caerdydd

Dyddiad(au)

15 Hyd 2026 - 17 Hyd 2026

Amseroedd

17:00

Lleoliad

Marchnad Caerdydd, Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1AU

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bydd Marchnad Ganolog hanesyddol Caerdydd yn agor gyda’r nos fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, gan ddod â selogion cerddoriaeth, teuluoedd, ymwelwyr a mynychwyr yr ŵyl ynghyd am dair noson am ddim o ddarllediadau byw a pherfformiadau, setiau DJ, bwyd a diwylliant yng nghanol y ddinas.

Rhwng 5pm a 10pm, o ddydd Iau 15 tan ddydd Sadwrn 17 Hydref, bydd Marchnad Nos Dinas Gerdd Caerdydd yn croesawu gorsaf radio amgen Gymreig Radio Sudd yn y farchnad Fictoraidd eiconig, gan drawsnewid y lleoliad nodedig yn fan ymgynnull bywiog yn ystod penwythnos Sŵn.

Drwy gydol y dydd, bydd Radio Sudd yn darlledu’n fyw o Farchnad Caerdydd, gyda chyfweliadau ag artistiaid, darllediadau gwyliau a rhaglenni gwadd arbennig gan gynnwys rhifyn arbennig o On the Record gyda SHLUG, ynghyd â slotiau gwesteion yn cynnwys Dewin, The Dogs, Wrkhouse a mwy.

Wrth iddi nosi, bydd DJs gan gynnwys Sarah Sweeney, John Rea, Deckshark, Ceyda, a Willow yn codi’r sain a bydd perfformwyr byw gan gynnwys Ifan, Pypi Slysh a’r John Mouse Multiverse yn camu i lwyfan balconi sy’n edrych dros lawr y farchnad, gan greu trac sain unigryw i noson yn un o adeiladau treftadaeth mwyaf atmosfferig y ddinas.

Yn y cyfamser, bydd ystod eclectig y farchnad o fasnachwyr annibynnol yn cadw’r egni’n uchel, gyda bwyd a diod ar gael gan Dirty Gnocchi, Bao Selecta, Patagonia, Thai Asian Delish, Pierogi, The Bearded Taco, Ffwrnes a mwy.