Llais · Laurie Anderson: Friends and Teachers

Dyddiad(au)

08 Hyd 2026

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru Bute Place Caerdydd CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Perfformiad arbennig o bortreadau o’i llyfr sydd ar y gweill

Mae Laurie Anderson yn un o artistiaid mwyaf dylanwadol ac arloesol y pedwar degawd diwethaf. Fel awdur, cyfarwyddwr, cyfansoddwr, artist gweledol, cerddor a lleisydd, mae wedi gwthio ffiniau creadigol yn gyson ers rhyddhau ei gwaith arloesol, O Superman, yn 1981.

Mae ei gyrfa ryfeddol wedi cwmpasu cerddoriaeth, perfformio, ffilm, celfyddyd weledol a thechnoleg, gyda gwaith wedi’i gyflwyno mewn amgueddfeydd, theatrau a sefydliadau blaenllaw ledled y byd, gan gynnwys Prifysgol Harvard a NASA. Mae’n artist sydd wedi ennill Gwobr Grammy ac wedi cael Gwobr Cyflawniad Oes gan yr Academi Recordio, ac mae wedi cydweithio gydag ystod nodedig o ffigurau creadigol, gan gynnwys Brian Eno, Philip Glass, a’i phartner oes a’i chydweithiwr creadigol, Lou Reed.

Yn ei hymddangosiad cyntaf erioed yng Nghymru fel rhan o Llais 2026, mae Laurie’n cyflwyno Friends and Teachers – perfformiad arbennig o bortreadau wedi’u tynnu o’i llyfr sydd ar y gweill. Gan gyfuno straeon, craffter a ffraethineb, mae’r digwyddiad pwrpasol hwn yn cynnig cyfle prin i brofi gwaith newydd gan un o leisiau mwyaf nodedig diwylliant cyfoes.

Yn ysgogi’r meddwl, yn agos atoch ac yn ddynol iawn, mae Friends and Teachers yn gwahodd cynulleidfaoedd i fyd Laurie drwy fyfyrdodau ar y bobl, y syniadau a’r cyfarfyddiadau sydd wedi siapio ei bywyd a’i chrefft. Gallwch ddisgwyl noson fythgofiadwy gan artist arloesol y mae ei gwaith yn dal i ysbrydoli cynulleidfaoedd ledled y byd.