Llais · Buena Vista All Stars + Orchestra Baobab
Dyddiad(au)
11 Hyd 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ymgollwch mewn rhaglen ddwbl ysblennydd yn dathlu’r cysylltiadau cerddorol rhwng Ciwba a Gorllewin Affrica, wedi’i pherfformio gan ddau o ensembles mwyaf cyffrous a dylanwadol y byd.
Cerddorfa arbennig yw Buena Vista All Stars sy’n cynnwys y cerddorion gorau o Giwba, fel Demetrio Muñiz a Barbarito Torres, aelodau gwreiddiol Buena Vista Social Club, y mae eu perfformiadau bywiog wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ledled y byd. Gan gyfuno rhythmau traddodiadol Ciwba â dylanwadau Affricanaidd a Sbaenaidd, mae’r ensemble yn dod â harddwch, angerdd ac enaid Ciwba yn fyw drwy gerddoriaeth feistrolgar ac egni heintus.
Â’u gwreiddiau mewn cenedlaethau o dreftadaeth gerddorol ond hefyd yn cofleidio ysbryd ffres a chyfoes, mae Buena Vista All Stars yn anrhydeddu etifeddiaeth barhaus cerddoriaeth Ciwba wrth ddathlu ei lle fel ffurf fyw ar gelfyddyd sy’n esblygu.
Bydd Orchestra Baobab yn ymuno â nhw ar y rhaglen gan ddod â synau Senegal i Gaerdydd. Ar ôl cael ei sefydlu yn Dakar yn 1970, daeth y grŵp adnabyddus yn un o gonglfeini cerddoriaeth Affricanaidd gyda’i asiad nodedig o rhythmau Affro-Ciwbaidd a thraddodiadau cerddorol Wolof, Mandinka a Serer.
Mae Orchestra Baobab, sy’n ailddyfeisio eu sain yn barhaus ond gan aros yn driw i’w gwreiddiau, yn swyno cynulleidfaoedd ers degawdau gyda’u rhythmau hypnotig, eu halawon cain a’u dawn gerddorol eithriadol. O glybiau agos-atoch Dakar i lwyfannau ledled y byd, mae eu cerddoriaeth yn adrodd hanes treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol.
Gyda’i gilydd, mae’r ddau ensemble eiconig hyn yn eich gwahodd ar daith gerddorol fythgofiadwy sy’n llawn rhythm, traddodiad a chaneuon oesol sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau ac yn cysylltu diwylliannau.