Llais · Blind Boys of Alabama + London African Gospel Choir
Dyddiad(au)
09 Hyd 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae’r Blind Boys of Alabama yn dod â noson o ganu enaid a gospel i Llais 2026 ac yn cael eu cefnogi gan Gôr Gospel Affricanaidd Llundain, fydd yn perfformio albwm Paul Simon, Graceland.
Mae’r Blind Boys of Alabama yn rhan o chwedloniaeth cerddoriaeth gospel, gan ddod â thros 70 mlynedd o enaid, angerdd a grym adrodd straeon i lwyfannau ledled y byd. Wedi’u hanrhydeddu â Gwobrau Cyflawniad Oes gan Gronfa Genedlaethol y Celfyddydau a’r GRAMMYs, wedi’u cynnwys yn Oriel Anfarwolion Cerddoriaeth Gospel, ac wedi ennill chwe Gwobr GRAMMY®, mae eu taith ryfeddol yn dyst i artistwaith a gwydnwch sydd wedi para.
O’u dyddiau cynnar yn perfformio am arian poced yn Nhaleithiau’r De yng nghyfnod Jim Crow i fod yn drac sain i’r Mudiad Hawliau Sifil a pherfformio i dri o arlywyddion yr Unol Daleithiau, mae eu cerddoriaeth yn cario hanes cyfoethog o ddyfalbarhad a gobaith. Mae eu halbwm ddiweddaraf, Echoes of the South, yn parhau â’r etifeddiaeth hon – gan ennill Gwobr GRAMMY® a nifer o enwebiadau – gyda myfyrdod teimladwy ar frwydr, cryfder a buddugoliaeth.
Mae eu stori bellach yn ymestyn y tu hwnt i’r llwyfan gyda rhyddhau Spirit of the South, cipolwg agos atoch ac ysbrydoledig ar y bywydau, y lleisiau, a’r straeon sydd heb eu hadrodd y tu ôl i un o grwpiau mwyaf dylanwadol cerddoriaeth gospel.
Yn ymuno â nhw mae’r Côr Gospel Affricanaidd Llundain, yn ôl gyda’u hail-ddychmygiad cyffrous o albwm chwedlonol Paul Simon, Graceland, fydd yn cyffwrdd yr enaid – gan nodi 40 mlynedd o’r glasur oesol honno.
Bydd y cyngerdd yn tynnu ynghyd leisiau llawen, harmonïau hyfryd, a dathliad anorchfygol o dreftadaeth gerddorol Affricanaidd, yn cael ei berfformio gydag angerdd, enaid, a rhythm gwefreiddiol.
Mewn noson fythgofiadwy o lawenydd ac asio diwylliannol, bydd Côr Gospel Affricanaidd Llundain yn dod â bywyd newydd i glasuron fel “You Can Call Me Al” a “Diamonds on the Soles of Her Shoes”. Dim ots ydych chi’n gwrando’n selog ar yr albwm wreiddiol ers blynyddoedd neu’n darganfod ei hudoliaeth am y tro cyntaf – bydd hwn yn brofiad byw fydd yn cysylltu’r cenedlaethau ac yn mynd y tu hwnt i ffiniau.