Neidio i'r prif gynnwys

Cronfa Lleoliadau Llawr Gwlad Caerdydd

Credyd Llun: Jamie Chapman

Bydd y Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad CFfG (Cronfa Ffyniant Gyffredin) newydd yn cefnogi lleoliadau presennol i fuddsoddi yn eu lleoliad i’w wneud yn fwy cynaliadwy yn ariannol neu’n amgylcheddol. Bydd y gronfa newydd ar gael i leoliadau o fewn Awdurdod Lleol Caerdydd sy’n bodloni’r meini prawf canlynol: ​​

  • Cwmni cyfyngedig, menter gymdeithasol gofrestredig, CBC neu elusen.·
  • Gyda throsiant gweithredu yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf uwchlaw’r trothwy TAW (£85,000).
  • Busnes sefydledig sydd wedi bod yn masnachu am dros dau​​​​ flynedd.
  • Lleoliad Caerdydd a’i brif bwrpas yw perfformiad diwylliannol
  • BBaCh (llai na 250 o weithwyr a throsiant blynyddol o dan €50 miliwn).

Bydd ceisiadau busnes yn cael eu hystyried ar gyfer buddsoddiadau sy’n cysylltu â Strategaeth Adfer Cryfach, Tecach, Gwyrddach y ddinas a Strategaeth Cerddoriaeth Caerdydd, ac sy’n cyflawni’r canlynol:

  • Creu Swyddi a diogelu swyddi – bydd hyn yn cael ei fonitro dros gyfnod o 12 mis
  • Llai o ddefnydd o ynni a gostyngiadau CO2
  • Mwy o hygyrchedd o ran y lleoliad

Bydd y Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad yn cynnwys:

  • Grantiau cyfalaf o £1,000 i £10,000
  • Ar gael i fusnesau sydd â chyfeiriad busnes cofrestredig yng Nghaerdydd
  • Angen dau​ ddyfynbris ar gyfer gwariant y prosiect
  • Bydd y grant yn 75% o gyfanswm gwariant y prosiect ac eithrio TAW
  • Ni ddylid bod wedi rhoi blaendal ar gyfer eitemau na bod wedi ymrwymo i’w prynu cyn cael cymeradwyaeth.

    DYDDIAD CAU: 31 Rhagfyr 2024

MANYLION YMA