TELERAU AC AMODAU GWOBR GŴYL DINAS GERDD CAERDYDD (Instagram)
DOCYN 3 DIWRNOD I SŴN AM DDIM (17, 18, 19 Hydref 2024).
• Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
• Dim ond unwaith y caiff pob cystadleuydd gyflwyno ei enw gan ddilyn yr amodau cystadlu.
• Digwyddiadau yn amodol ar argaeledd. Ni allwch gyfnewid y wobr am arian parod. Nid yw’r wobr hon yn drosglwyddadwy ac ni chynigir dewis arall os bydd unrhyw ran o’r wobr a gynigir yn cael ei gohirio neu ei chanslo.
• Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap ac yn cael gwybod DDYDD MAWRTH 15 HYDREF erbyn hanner dydd.
• Does dim angen prynu unrhyw beth i gystadlu a does dim cost i gystadlu.
• Bydd telerau ac amodau’r wobr hon yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr.
• Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth a’r telerau hyn os bydd amgylchiadau’n codi y tu hwnt i’w reolaeth.
• Nid yw’r hyrwyddwr yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod, colled, anaf neu siom a ddioddefir gan ymgeiswyr o ganlyniad i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
• Mae ymgeiswyr yn darparu gwybodaeth i’r hyrwyddwr a dim ond i weinyddu’r gystadleuaeth y bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio.
• Ystyrir y bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth wedi derbyn y telerau ac amodau hyn.