Blwyddyn Cymru yn India 2024: Galwad am ddatganiadau o ddiddordeb
2024 yw Blwyddyn Cymru yn India Llywodraeth Cymru
Mae’r celfyddydau, diwylliant a lles wedi gwneud cyfraniad o bwys at ddatblygu cysylltiadau cyfoethog a hirhoedlog rhwng Cymru ac India, a bydd y flwyddyn yn rhoi cryn bwyslais ar hyn.
Fel rhan o’n cyfraniad ni at y rhaglen, mae British Council Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, ynghyd â’i asiantaeth ryngwladol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb am gyllid i ehangu’r gweithgarwch celfyddydol penodol sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, a hwnnw i’w gynnal yn India ddiwedd 2024.
Mae’r cyfle cyllido hwn yn ceisio cryfhau’r partneriaethau a’r trefniadau cydweithio celfyddydol sy’n bodoli’n barod rhwng Cymru ac India mewn meysydd blaenoriaeth penodol. Mae’r cyfle ar agor i unigolion a sefydliadau sy’n gweithio ym myd y celfyddydau yng Nghymru.