Neidio i'r prif gynnwys

Orbital a Leftfield i Agor Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd

Dydd Llun, 22 Ebrill 2024
11:00


CYN-WERTHU YN AGOR O DDYDD IAU 25 EBRILL @ 10:00

Cofrestrwch isod i gael mynediad…

Bydd arloeswyr cerddoriaeth electronig Orbital a Leftfield yn agor Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd ar 27 Medi yn Arena Utilita Caerdydd, sy’n nodi dechrau tair wythnos wefreiddiol o gyngherddau, digwyddiadau cerddoriaeth ymgolli, sioeau cudd, cyfnodau preswyl anarferol, sesiynau diwydiant, gosodiadau a pherfformiadau untro dyfeisgar ym mhrifddinas Cymru.

Yn dal i wthio ffiniau 30 mlynedd ar ôl eu prif sioe a ddiffiniodd genhedlaeth yn Glastonbury 1994, mae albwm diweddaraf Orbital Optical Delusion yn uno synth modwleiddio nodweddiadol y brodyr Hartnoll â llais trawiadol Anna B Savage a phync-wleidyddol Sleaford Mods. Nid yw amser wedi ysgafnhau eu sioeau byw di-baid chwaith – maen nhw yn UDA ar hyn o bryd ar gyfer prif sioe yng Ngŵyl Coachella, a bydd pensetiau dwy dortsh enwog y brodyr yn rhannu llwyfan â llu o dafluniadau gweledol cynhyrfus sy’n codi’r profiad byw i lefel uwch byth.

Mae Leftfield yn enwog am bŵer sonig i ysgwyd meini yn eu sioeau byw, ac mae gwrando unwaith ar ei albwm diweddaraf, This is What We Do, yn brawf nad yw’r act electronig ddylanwadol wedi esmwytho ers i’r Sex Pistol John Lydon fynnu ein bod yn “Open Up” ar eu halbwm arloesol ac eclectig rhydd ym 1995, Leftism. Gan gymysgu traciau ffres o’r bocs â thoriadau clasurol i greu profiad ymgolli gwefreiddiol o sain wedi’i droshaenu â motiffau dro ar ôl tro a delweddau caleidosgopig, mae sioeau byw diweddar wedi cadarnhau bod Leftfield yn parhau i fod ar y brig.

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, nod Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yw denu 20,000 o bobl i’r ddinas yn ei blwyddyn gyntaf. Gan gwmpasu’r ŵyl gerddoriaeth newydd enwog Sŵn a phenwythnos celfyddydau rhyngwladol Canolfan Mileniwm Cymru, Llais, bydd yr ŵyl yn lledaenu cerddoriaeth ledled y ddinas, gan herio, cyffroi ac ysbrydoli cefnogwyr ar draws cenedlaethau a genres.

Bydd rhaglen lawn o dalent leol a rhyngwladol, gan gynnwys enwau cyfarwydd a thalent sy’n dod i’r amlwg, yn cael ei chyhoeddi yn y misoedd nesaf.

Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn rhedeg o 27 Medi i 20 Hydref 2024.

Bydd tocynnau ar gyfer Orbital a Leftfield yn Arena Utilita Caerdydd ar werth i’r cyhoedd ar ddydd Gwener 26 Ebrill, 10am.

Cofrestrwch i’n rhestr ebostio i gael mynediad at cyn-werthiant, diweddariadau a chyhoeddiadau yn y dyfodol.