Llais · Celfyddyd Gair Llafar
Dyddiad(au)
08 Hyd 2026
Amseroedd
20:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Gair llafar, cerddoriaeth a chelf
Ymuna â Platfform a CELF: Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer arddangosfa feiddgar o leisiau ifanc wedi’u hysbrydoli gan gelf gyfoes.
Dan arweiniad yr awdur, gwneuthurwr theatr a bardd gair llafar Tia-zakura, mae 11 o feirdd Platfform ifanc wedi treulio wyth wythnos yn archwilio rhythm llif a thechnegau perfformio ac yn creu barddoniaeth ‘ekphrastic’ gwreiddiol mewn ymateb i weithiau celf o’r casgliad cenedlaethol.
Nawr, maen nhw’n camu ar y llwyfan i rannu eu creadigrwydd, geiriau a lleisiau, ochr yn ochr â cherddoriaeth ac arddangosfa o’r gweithiau celf a sbardunodd eu syniadau.
Dathla’r genhedlaeth nesaf o ddoniau gair llafar yng Nghymru gyda Platfform, gofod sy’n hyrwyddo lleisiau ifanc ac sy’n creu cyfleoedd cyffrous i bobl ifanc archwilio gair llafar.
Archeba dy docyn ar gyfer noson o farddoniaeth, cerddoriaeth a chelf bwerus.
Yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.