Gwenno + Joe Webb Trio
Dyddiad(au)
08 Hyd 2026
Amseroedd
19:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn cyflwyno noson o gerddoriaeth wedi’i churadu a’i chyflwyno gan y ddarlledwraig o’r BBC a’r ffan cerddoriaeth, Bethan Elfyn.
Mae Bethan Elfyn wedi treulio ei hoes yn gweithio gyda cherddoriaeth yng Nghymru ar radio rhwydwaith a lleol, yn curadu digwyddiadau, yn ysgrifennu, yn cyflwyno, yn DJio, yn cynhyrchu ac wrth lyw prosiect cerddoriaeth Gorwelion.
Mae Bethan yn falch o fod yn rhan o gyflwyno’r talentau hyn o Gymru gyda Dinas Gerdd Caerdydd yn CBCDC.
Bydd y noson yn cynnwys perfformiad unigol gan Gwenno – cerddor, canwr-gyfansoddwr, artist sain, a chyflwynydd radio sy’n cael ei chydnabod am ei gwaith amlieithog yn Gymraeg, Cernyweg, a Saesneg. Mae hi wedi rhyddhau pedwar albwm unigol clodwiw: Y Dydd Olaf (y Wobr Gerddoriaeth Gymreig), Le Kov, Tresor (rhestr fer Gwobr Mercury), ac Utopia, ei halbwm cyntaf yn Saesneg.
Mae Joe Webb yn bianydd jazz, cyfansoddwr ac addysgwr o Gymru. Mae’n arwain y Joe Webb Trio, ac roedd eu halbwm Hamstrings & Hurricanes (2024) wedi cyrraedd rhestr fer y Wobr Mercury. Mae wedi teithio gyda Jamie Cullum a Jools Holland, ac yn gynharach eleni, lansiodd ei albwm diwethaf Neath Beat yng Ngŵyl Jazz CBCDC.
Rydym yn gweithio gyda Heads Above the Waves gyda rhodd o’r gig hwn. Maent yn sefydliad iechyd meddwl di-elw yng Nghaerdydd sy’n hyrwyddo ffyrdd creadigol o ddelio gyda’r dyddiau gwael.