Sinfonia Cymru · Songs We Carry

Dyddiad(au)

08 Hyd 2026

Amseroedd

20:00

Lleoliad

The Gate, Keppoch Street, Cardiff, CF24 3JW

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Ana Silvera – Cantores ac aml-offerynnwr

Saied Silbak – Oud a llais

Patrick Rimes – Ffidil/Fiola

Bob blwyddyn, rydym yn cydweithredu gydag artistiaid a sêr rhyngwladol, adnabyddus, sy’n eu hysbrydoli a’u herio. Mae ein cydweithrediad traws-ddiwylliannol diweddaraf yn fersiwn newydd, ehangach o Songs We Carry – perfformiad clodfawr a deithiwyd gan Ana Silvera a Saied Silbak yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’n archwilio melancoliaeth emosiynol cerddoriaeth Ladino, a’r Maqams cyfoethog a melodïau cymhleth caneuon Arabaidd.

Mae Patrick Times, y cerddor enwog o Gymru, wedi ail-sgorio Songs We Carry i’w perfformio gan Ana, Saied, ef ei hun, a phedwar o gerddorion Sinfonia Cymru, gan ychwanegu caneuon Cymreig cyflenwol i’r set. Ymunwch â ni am raglen gyfoethog ac amrywiol o gerddoriaeth o wahanol wledydd, sy’n addo adeiladu ar sioe wreiddiol a ddisgrifir fel “beautiful and deeply moving” (The Arts Desk, ☆☆☆☆☆) .