Llais · Tristwch y Fenywod + Joanne Robertson + Jasper Llewellyn

Dyddiad(au)

11 Hyd 2026

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru Bute Place Caerdydd CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bil triphlyg sy’n cynnwys rhai o’r cerddorion arbrofol gorau yn y DU.

Mae Tristwch y Fenywod yn fand tair menyw cwiar sy’n chwarae cerddoriaeth gothig roc avant garde drwy gyfuno offerynnau gwerin, roc a digidol; gyda geiriau uniaith Gymraeg. Mae cariad a chwant saffig, tywyllwch difrodol, gofid/dathliad gwleidyddol ac amgylcheddol, rhamant seico-ddaearyddol, cyfriniaeth baganaidd, archwiliadau delweddaidd o hanes a chwedlau Celtaidd, rhithweledigaethau ac amrywiadau pellach o synfyfyrdod yn cael eu consurio yn sŵn Tristwch y Fenywod. Cafodd y band eu ffurfio yn 2022 yn Leeds, ble maent wedi’u seilio’n bennaf.

Mae Joanne Robertson yn gerddor a pheintiwr. Mae’n cydweithio gyda’i ffrindiau yn aml, yn fwyaf diweddar gyda Dean Blunt ar Backstage Raver a Sidsel Meineche Hansen ar Alien Baby.

Mae ei cherddoriaeth a’i phaentiadau yn dod o gyfnodau byrfyfyr o fynegi, a chafodd ei albwm Blurrr, a gafodd ei ryddhau drwy AD 93 yn 2025 i glod gan y beirniaid, ei ysgrifennu rhwng sesiynau paentio ac wrth fagu ei phlentyn. Gyda greddf lac a chwareus, mae llais a gitâr Robertson yn llithro a sibrwd ar draws y record, gan feithrin agosrwydd dwys wrth i emosiynau anhysbys godi.

Mae Jasper Llewellyn yn aelod sefydlol o’r band ‘caroline’. Mae bellach yn chwarae ei sioeau cyntaf o dan ei enw ei hun.