Llais · Sirens: Wedi’i gyflwyno gan Lisa Hannigan
Dyddiad(au)
10 Hyd 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Gyda Theodora Byrne Trio, Jane Patterson, Helen Murray, Amanda Bergman, Kate Stables, Landless, Bess Atwell, Charlotte Church a mwy.
Casgliad rhyfeddol o leisiau am un noson arbennig.
Profiad cerddoriaeth fyw sy’n esblygu yw Sirens, sy’n dathlu cysylltiad, cydweithio a grym gweddnewidiol cyd-ganu. Mae Sirens, sy’n cael ei gynnal gan Lisa Hannigan, gyda threfniannau a chyfarwyddyd cerddorol gan Theodora Byrne ac yn cael ei berfformio ochr yn ochr â’i thriawd, yn dod â chasgliad rhyfeddol o artistiaid benywaidd ynghyd ar gyfer noson unigryw o gyd-ganu ac archwilio sonig.
Wedi’i greu yn ystod preswylfa artistig yn Sounds from a Safe Harbour (Corc, Iwerddon), mae Sirens yn canolbwyntio ar gryfder, atseiniad ac agosatrwydd lleisiau menywod. Gan symud rhwng cyfansoddiadau gwreiddiol a gweithiau gan gyfansoddwyr benywaidd wedi’u hail-ddychmygu, mae’r perfformiad yn datblygu drwy harmonïau haenog, trefniannau cydweithredol ac eiliadau o wrando dwfn, gan greu awyrgylch sy’n agos atoch ac yn eang ar yr un pryd.