Llais · Tomos Williams’ Cwmwl Tystion III / Empathy

Dyddiad(au)

10 Hyd 2026

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru Bute Place Caerdydd CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae’r trwmpedwr Tomos Williams yn dychwelyd i Llais gyda’r symudiad olaf o’i gyfres arloesol ‘Cwmwl Tystion’, sy’n archwilio digwyddiadau yn hanes Cymru drwy gerddoriaeth.

Yn dilyn perfformiad Cwmwl Tystion II/Riot! yn Llais yn 2023, mae Tomos unwaith eto wedi ymgynull casgliad o gerddorion Cymreig a rhyngwladol rhyfeddol ar gyfer Cwmwl Tystion III / Empathy.

Mae Nia Lynn ac Eadyth Crawford yn ddwy o leisiau mwyaf creadigol ac amryddawn Cymru.

Daw Melvin Gibbs, o Brooklyn, Efrog Newydd, ac mae’n enw rhyngwladol ar y bas drydan; disgrifia’ Time Out New York  ef fel ‘ chwaraewr bas gorau’r byd’, ac mae wedi gweithio gyda pawb o Ornette Coleman i Henry Rollins. Mae’r gitarydd Gwyddelig Chris Guilfoyle wedi gwneud enw i’w hun fel un gerddorion mwya’ cyffrous yr Ynys Werdd.

Yn olaf, mae Mark O’Connor ar y drymiau, a delweddau byw gan Simon Proffitt, y ddau yn aelodau creuddiol o bob pennod o ‘Cwmwl Tystion’.