Llais · Shovel Dance Collective + Naima Bock
Dyddiad(au)
08 Hyd 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ymunwch â ni yn Stiwdio Weston am noson o gerddoriaeth gyfareddol gan ddau artist anhygoel.
Shovel Dance Collective
Grŵp o naw yw Shovel Dance Collective y mae eu gwaith wedi’i ysbrydoli gan gerddoriaeth werin draddodiadol o wledydd Prydain, Iwerddon a’r tu hwnt. Mae’r grŵp yn cyfuno dylanwadau gwerin traddodiadol â byrfyfyrio cyfoes, mela gyda’r tâp, a recordiadau maes wrth grefftio eu sain unigryw ac emosiynol gymhleth.
Mae eu halbwm ddiweddaraf, The Shovel Dance, yn estyn am ychwanegiad grymus cyd-fynegiant sydd wedi bod yn hanfodol i gerddoriaeth draddodiadol erioed, ac mae wedi galluogi’r grŵp i ddeall eu safbwynt eu hunain ar y deunydd maen nhw’n ei chwarae.
Naima Bock
Yn ymuno â Shovel Dance Collective bydd Naima Bock, cantores a chyfansoddwraig sydd wedi dod o hyd i’w llais mewn cerddoriaeth werin ers gadael y band roc indi llwyddiannus Goat Girl yn 2022.
Cafodd Naima Bock ei geni yn Ynys Wydrin (Glastonbury) i dad o Frasil a mam o Wlad Groeg, a threuliodd ei phlentyndod cynnar ym Mrasil cyn dychwelyd i Loegr yn y pen draw. Mae ei cherddoriaeth yn adleisio’r dreftadaeth unigryw hon; o’r caneuon Brasilaidd y byddai’r teulu’n gwrando arnyn nhw wrth yrru i’r traeth, i’r traddodiadau gwerin Ewropeaidd y daeth ar eu traws ei hunan. Mae ei cherddoriaeth yn tynnu ar deulu, y ddaear a throsglwyddo cerddoriaeth rhwng y cenedlaethau, ac mae’n dod yn fyw drwy drefniannau gofalus a lleisio heb ei ail.