Ein Dinas, Ein Straeon - Lansio prosiect hanes llafar newydd

Disgwylir i sîn gerddoriaeth fyw Caerdydd sy’n esblygu’n barhaus – o nosweithiau chwedlonol yng Nghlwb Casbalanca, gigs pync gwyllt yn y Top Rank, sioeau chwys stêcs yng Nghlwb Ifor Bach, i berfformiadau enfawr yn Stadiwm Principality – gael ei chyfleu trwy brosiect hanes llafar newydd sy’n gwahodd pobl ifanc i gofnodi atgofion y rheini a’i profodd.

 

Mae Ein Dinas, Ein Straeon: Straeon Heb eu Dweud, Synau Bythgofiadwy – Cyfleu Treftadaeth Cerddoriaeth Fyw Egnïol Caerdyddyn brosiect pontio’r cenedlaethau sy’n dod â phobl ynghyd o bob oed a phrofiad. Mae croeso i wirfoddolwyr o bob oedran, ond mae’r prosiect yn annog pobl dan 25 oed i gymryd rhan.

 

Bydd gwirfoddolwyr iau yn cael eu hyfforddi fel cyfwelwyr a byddant yn gweithio gyda thrigolion hŷn Caerdydd i gofnodi atgofion o gerddoriaeth fyw dros y degawdau. O roc a phop i pync, enaid, dawns a chlasurol, bydd y prosiect yn dathlu’r gigs, y lleoliadau a’r eiliadau bythgofiadwy sydd wedi helpu i lunio hunaniaeth ddiwylliannol Caerdydd.

 

Bydd yr holl wirfoddolwyr yn cael eu cefnogi gan fentor gwirfoddol ac yn derbyn hyfforddiant llawn mewn technegau hanes llafar, gan gynnwys sut i gynnal cyfweliadau, gofyn cwestiynau gwych a gwneud recordiadau sain o ansawdd uchel. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol – dim ond brwdfrydedd, chwilfrydedd a chariad at gerddoriaeth ac adrodd straeon. Disgwylir i’r hyfforddiant gymryd tua diwrnod, gyda chyfweld a recordio pob stori yn cymryd tua dwy awr arall. Mae croeso i wirfoddolwyr gymryd rhan mewn un cyfweliad neu gynifer ag y dymunant.

 

Bydd y cyfweliadau wedi’u recordio yn rhan o etifeddiaeth gyhoeddus barhaol, gyda straeon wedi’u harchifo yn Archifau Morgannwg a Chasgliad y Werin yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan sicrhau bod hanes cerddoriaeth fyw Caerdydd yn cael ei gadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd y prosiect yn arwain at arddangosfa gyhoeddus ym mis Hydref, gan ddod â darnau, ffotograffau a sain o bob rhan o’r cyfweliadau ynghyd, yn ogystal â phethau cofiadwy o’r bobl, y lleoedd a’r eiliadau sydd wedi diffinio diwylliant cerddoriaeth fyw Caerdydd.

 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor:

“P’un a yw’n ymwneud â gweld Aretha Franklin yng Nghlwb Casablanca neu’r Beatles yn y Top Rank, bod yno pan oedd Adele yn chwarae i lond llaw o bobl yn y Buffalo Bar, neu noson agoriadol taith aduniad hanesyddol Oasis yn Stadiwm Principality, mae Caerdydd wedi croesawu artistiaid ar bob cam o’u gyrfaoedd, mewn lleoliadau o bob maint, o’r gigs cynnar mewn lleoliadau ar lawr gwlad i sioeau stadiwm enfawr.

 

“Nod Strategaeth Gerddoriaeth Caerdydd yw cefnogi a chynnal sector cerddoriaeth y ddinas, ond nid yw cerddoriaeth fyw yn digwydd heb y cefnogwyr, sy’n mynd allan i brynu tocynnau ar gyfer y gigs, ac yn helpu i lunio sîn gerddoriaeth y ddinas.

 

“Er gwaethaf y dreftadaeth gerddoriaeth fyw gyfoethog hon, mae llawer o’r straeon mwyaf pwerus yn perthyn i’r cynulleidfaoedd – o’r cyfeillgarwch a wnaed mewn ciwiau a’r bandiau a welwyd cyn iddynt fod yn enwog, i’r caneuon sy’n dal i ddod ag eiliad yn ôl mewn amser.

 

“Mae’r prosiect pontio’r cenedlaethau hwn yn rhoi’r atgofion hynny yn ganolog, gan roi sgiliau, hyder a phrofiad gwerthfawr i bobl ifanc wrth gyfweld, gwrando ac adrodd straeon.”

 

Ochr yn ochr â recriwtio cyfwelwyr, mae’r prosiect hefyd yn gwahodd pobl hŷn o bob rhan o Gaerdydd i ddod ymlaen fel storïwyr a rhannu eu hatgofion am gigs, lleoliadau ac eiliadau cerddorol sy’n bwysig iddyn nhw.

 

P’un a yw’r atgof yn ymwneud â chyngerdd byw cyntaf, hoff fand lleol, noson a newidiodd bopeth, neu leoliad a oedd yn teimlo fel bod gartref, mae croeso i bob stori o Ddinas Gerdd Caerdydd.

 

Anogir unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan – naill ai fel cyfwelydd neu storïwr – i gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth.

 

E-bostiwch: EinDinasEinStraeon@caerdydd.gov.uk
Dilynwch y prosiect ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook ac Instagram