PRIFYSGOL DE CYMRU YN CYFLWYNO GŴYL YMGOLLI 26: FFAIR GYRFAOEDD A RHWYDWEITHIO YM MAES Y DIWYDIANNAU CREADIGOL
DIGWYDDIAD PWYSIG YN Y DIWYDIANT YN CYSYLLTU TALENT GREADIGOL CYMRU Â’R SEFYDLIADAU SY’N LLUNIO DYFODOL Y MAES
Mae Prifysgol De Cymru yn cyflwyno trydedd Ffair Gyrfaoedd a Rhwydweithio’r Diwydiannau Creadigol flynyddol, yn rhan o Ŵyl Ymgolli, ar ddydd Iau 5 Mawrth 2026 yn Atriwm Campws PDC yng Nghaerdydd. Y llynedd, daeth 700 o fyfyrwyr a phobl ifanc i’r digwyddiad, ac fe gawson nhw gyfle gwych i ymgysylltu â sefydliadau blaenllaw ym maes diwydiannau creadigol Cymru.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol, UK Music, Music Declares Emergency a Dinas Gerdd Caerdydd, mae’r Ffair yn un o uchafbwyntiau’r Ŵyl Ymgolli, sy’n fis cyfan o greadigrwydd, cyfleoedd a dychymyg. Mae’n cysylltu talent sy’n dod i’r amlwg â sefydliadau sy’n llunio dyfodol diwydiannau creadigol Cymru.
Bydd dros 40 o arddangoswyr blaenllaw o feysydd cerddoriaeth, ffilm, teledu, theatr, digwyddiadau byw, cyfryngau digidol, addysg, a’r economi greadigol ehangach yn cymryd rhan. Gall ymwelwyr gwrdd â chyflogwyr, cyllidwyr, lleoliadau, darlledwyr, a sefydliadau cymorth sy’n cynnig llwybrau i gyflogaeth, gwaith llawrydd, addysg, mentora a datblygiad proffesiynol.
YMHLITH YR ARDDANGOSWYR SYDD WEDI’U CADARNHAU MAE:
● Audient
● BBC Studios a BBC Cymru
● Big Love Festival
● Busnes Cymru / Syniadau Mawr Cymru
● Canolfan Mileniwm Cymru (CMC)
● Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
● Cowshed
● Cyngor Trydydd Sector Caerdydd
● Cymru Greadigol
● Gorwelion / Horizons
● In It Together Festival
● It’s My Shout
● Ôl-gynhyrchu Gorilla
● OTID Entertainment
● Peacocks
● Prosiect Bannau / Forté
● Siop Un Stop / Sgilcymru
● Sound Progression
● Stage Sound Services
● Stuff Creative Studio
● Sustainable Studio / Dati Clothing
● Theatr Hijinx
● UK Music
… ochr yn ochr â stiwdios annibynnol, asiantaethau creadigol, lleoliadau, darparwyr addysg, a chyrff sector sydd wedi ymrwymo i feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr creadigol proffesiynol Cymreig.
DIWRNOD O GYFLEOEDD, MYNEDIAD A DARGANFOD
Mae’r Ffair yn cynnwys cyfleoedd gwych i ymgysylltu ag arddangoswyr, mynd i weithdai dan arweiniad y diwydiant, mwynhau trafodaethau panel a sesiynau bwrdd crwn, y cyfan yn rhoi mewnwelediad heb ei ail ar yrfaoedd creadigol yn y byd go iawn a’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo.
Bydd y diwrnod yn dod i ben gyda’r Gymysgfa Ymgolli, wedi’i guradu gan Dinas Gerdd Caerdydd a’i gefnogi gan Gyngor Caerdydd, ym Mar Undeb y Myfyrwyr yn yr Atrium. Dewch draw i fwynhau cerddoriaeth newydd unigryw, cyfleoedd rhwydweithio, a lletygarwch ar ymylon yr ŵyl. Bydd sgyrsiau, cerddoriaeth fyw, rhwydweithio anffurfiol, a dathlu cymunedol yn parhau gyda’r nos. Ymhlith y perfformwyr bydd llawer o artistiaid newydd Caerdydd a’r hen ffefrynnau lleol, y cyfan yn cynnig blas ar sîn gerddoriaeth fywiog y ddinas – bydd y manylion llawn yn cael eu rhyddhau cyn bo hir.
MANYLION Y DIGWYDDIAD
– Ffair Gyrfaoedd a Rhwydweithio’r Diwydiannau Creadigol Dydd Iau 5 Mawrth 2026
– Atriwm Campws Caerdydd PDC
– Mynediad am ddim (tocynnau trwy Eventbrite)
Gweithdai: 10:00 – 13:00
Ffair Gyrfaoedd: 13:00 – 16:00
Cymysgfa Dinas Gerdd Caerdydd: 16:00 – 20:00
CEFNOGI DYFODOL CREADIGOL CYMRU
Mae Ffair Gyrfaoedd a Rhwydweithio PDC yn cysylltu addysg a diwydiant, gan hyrwyddo cydweithredu, cynaliadwyedd a chynhwysiant, ac yn dathlu creadigrwydd fel sbardun i hyder, cyfleoedd a newid cadarnhaol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr creadigol proffesiynol yng Nghymru.
Dywedodd Dr Oliver Morris, Cyfarwyddwr Addysg UK Music: “Mae UK Music yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad gwych hwn dan arweiniad aelod o’n Partneriaeth Academaidd Cerddoriaeth, PDC. Mae mor bwysig cynnig cyfleoedd i drafod y materion sy’n effeithio ar gerddoriaeth a’r diwydiannau creadigol ehangach, a rhoi lle i’r rhai sy’n adeiladu eu gyrfaoedd rwydweithio ac ymgysylltu.”
Dywedodd Lucy Squire, Pennaeth Cerddoriaeth a Drama Prifysgol De Cymru: “Fe wnaethom greu Gŵyl Ymgolli i agor drysau i’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol yng Nghymru, gan ddarparu llwyfan lle gall pobl ifanc archwilio, cysylltu a siapio dyfodol ein diwydiannau creadigol bywiog.”
Dywedodd Lewis Jamieson, Cyfarwyddwr Music Declares Emergency: “Ers i ni gydweithredu gyntaf yn 2022, mae Music Declares Emergency wedi bod yn falch o fod yn bartner i Ŵyl Ymgolli. Rydyn ni wedi gweld y digwyddiad yn tyfu bob blwyddyn, ac wedi gweld creadigrwydd anhygoel myfyrwyr PDC a phŵer diwylliannol Cymru fel asiant ar gyfer newid cadarnhaol.”