Cyfleoedd: Cyfansoddwr Caneuon ParkinSings

NEWYDDION GAN: Choirs For Good

Mae ParkinSings yn gydweithrediad rhwng Parkinson’s UK Cymru a Choirs For Good i gynnig corau cymunedol i godi calon ar gyfer pobl yr effeithir arnynt gan glefyd Parkinson, a’u gofalwyr, yng Nghymru.

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus a grant pellach gan Gyngor Celfyddydau Cymru i barhau â’r prosiect, bydd cam nesaf ParkinSings (Medi 2025 – Awst 2026) yn dyfnhau ein dealltwriaeth o sut y gall canu grŵp fod o fudd i bobl sy’n byw gyda chlefyd Parkinson a’u hanwyliaid, ac yn archwilio ffyrdd o wneud y prosiect yn gynaliadwy i’r dyfodol. Fel rhan o’r cam nesaf cyffrous hwn, rydym yn edrych i gomisiynu cyfansoddwr caneuon llawrydd i arwain proses gyfansoddi caneuon greadigol a chydweithredol gyda’n cyfranogwyr ar draws ein 3 chôr, gan arwain at anthem ParkinSings ddwyieithog a fydd yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn haf 2026.

Manylion YMA