Teithiau cerdded Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn archwilio hanes cerddorol y ddinas

Mae strydoedd Caerdydd yn fyw gyda cherddoriaeth, a gall pobl sy’n hoff o gerddoriaeth brofi treftadaeth sain y ddinas ar droed. Fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd (3-18 Hydref 2025), bydd dwy daith gerdded newydd dan arweiniad y DJ Gareth Potter, sy’n hen law ar sîn gerddoriaeth Caerdydd, yn tywys cynulleidfaoedd ar daith drwy galon ac enaid prifddinas Cymru.

Mae’r teithiau’n cynnig cyfle unigryw i ddarganfod y straeon, y lleoliadau a’r cymeriadau sydd wedi siapio tirwedd gerddorol Caerdydd yng nghwmni Tywyswr Twristiaid Swyddogol Cymru sy’n caru ei ddinas. Yn rhan o gymuned gerddorol Caerdydd ers y 1970au, mae teithiau Gareth yn llawn hanesion sy’n adrodd stori dinas sy’n esblygu’n barhaus gyda rhywbeth i’ch synnu ar bob tro.

“Rydw i wedi bod yn mynd i gigs yng Nghaerdydd ers pan oeddwn i yn fy arddegau, gan wrthod rhybuddion fy nheulu i fynd ‘i lawr i’r dociau’ i wrando ar reggae,” meddai Gareth. “Doedd hi ddim yn hir cyn i mi ddechrau chwarae mewn bandiau ac aeth y cariad hwnnw at gerddoriaeth, a’r cariad at sîn gerddoriaeth Caerdydd, â mi trwy sîn pync a reggae yr 80au, diwylliant clwb y 90au a ffrwydrad Cŵl Cymru, yr holl ffordd hyd heddiw.

“Mae cerddoriaeth yn llifo trwy wythiennau Caerdydd ac mae’r teithiau yn gyfle i roi blas i bobl ar hynny, boed yn ffan gydol oes o gerddoriaeth neu’n newydd-ddyfodiaid chwilfrydig. Bydd straeon, tiwns ac efallai hyd yn oed peint neu ddau ar hyd y ffordd!”

 

Taith Bae Caerdydd

Archwiliwch hanes Tiger Bay, man geni’r Fonesig Shirley Bassey ac un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf y DU. O’r clwb enwog, Casablanca, i’r hen leoliad lle llofnodwyd siec mil o bunnoedd gyntaf y byd, mae straeon Gareth yn dod â’r lleoliadau, y cymeriadau a’r chwedlau a roddodd Caerdydd ar y map cerddorol yn fyw. A wnaeth Steve Strange rannu peint gyda docwyr lleol? A oes gan Grace Jones gysylltiad â Tiger Bay? Cewch wybod y cyfan wrth i chi gerdded y dociau a dysgu am ddylanwad byd-eang y ddinas.

Dydd Sadwrn 11 Hydref a dydd Sul 12 Hydref, 2pm – yn gadael o Ganolfan Mileniwm Cymru

 

Taith Canol y Ddinas

Cerddwch y strydoedd lle chwaraeodd U2, Coldplay a The Clash eu gigs cyntaf yng Nghymru, a lle dychwelodd Oasis i’r sîn gerddoriaeth. Cewch glywed am sioe olaf y Beatles yn y DU, y gig Sex Pistols na fu, a’r noson wyllt pan wnaeth y Rolling Stones lanast llwyr yng Ngerddi Sophia. O’r Super Furry Animals i Catatonia, mae straeon Gareth yn datgelu corneli cudd a chymeriadau lliwgar sîn gerddoriaeth fywiog Caerdydd.

Dydd Gwener 17 Hydref, 5.30pm a dydd Sadwrn 18 Hydref, 2pm – yn gadael o Glwb Ifor Bach

 

Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn bythefnos o gigs, digwyddiadau, sgyrsiau, gosodweithiau a safleoedd dros dro, yn harneisio pŵer cerddoriaeth, perfformio a thechnoleg i uno ac ysbrydoli.

Mae tocynnau ar gyfer y teithiau cerdded ar gael yma: https://www.ticketsource.co.uk/sound-tracks