Cerddoriaeth, bwyd a goleuadau llachar wrth i'r farchnad hanesyddol drawsnewid yn Farchnad Nos Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd

Dydd Mawrth, 7 Hydref 2025


 

Bydd Marchnad Ganolog hanesyddol Caerdydd yn trawsnewid yn gyrchfan nos fywiog, llawn cerddoriaeth fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Bydd yn cynnal marchnad nos am ddim fydd yn agored i bawb yn ystod penwythnos Gŵyl Sŵn (dydd Iau 16 Hydref – dydd Sadwrn 18 Hydref).

Am dair noson arbennig yn unig, bydd y farchnad Fictoraidd rhestredig Gradd II yn dod yn fyw ar ôl ei oriau agor arferol, gan groesawu ymwelwyr i fwynhau profiad diwylliannol unigryw sy’n cyfuno cerddoriaeth, bwyd a chelf o dan ei tho gwydr eiconig.

Mae’r digwyddiad cyffrous hwn yn gwahodd y rheiny sy’n hoff o wyliau a phobl chwilfrydig sy’n cerdded heibio i blymio i mewn ac allan o Sŵn a digwyddiadau eraill yng Ngŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, gan greu awyrgylch gŵyl hamddenol yng nghanol y ddinas.

Wrth wraidd y farchnad nos mae gosodiad goleuadau a gomisiynwyd yn arbennig gan y dylunwyr goleuadau lleol, Neon Black – rhan o’r tîm creadigol y tu ôl i sioe weledol The Sphere yn Las Vegas. Bydd eu dyluniad goleuadau ymdrochol yn ail-ddychmygu pensaernïaeth y farchnad, gan ei throchi mewn goleuni newydd a throi’r gofod yn llusern ddisglair o greadigrwydd a dathlu.

Gan ychwanegu at y dirwedd sonig, bydd Radio Sudd – gorsaf radio amgen ddwyieithog newydd Cymru – yn darlledu’n fyw bob dydd o orsaf radio dros dro ar lawr gwaelod y farchnad. Bydd yr alawon yn parhau i’r nos, gyda detholiad o DJs Radio Sudd a DJs gwadd yn chwarae’r goreuon ymhlith caneuon amgen, tanddaearol a byd-eang o fwth ar y balconi, ger yr enwog Kelly’s Records. Bydd yr amserlen lawn yn cael ei chyhoeddi ar Sioe Frecwast Radio Sudd ddydd Mercher, 8 Hydref.

Bydd digonedd o ddewis i’r rheiny sy’n hoff o fwyd, wrth i gasgliad eclectig y farchnad o werthwyr bwyd annibynnol, gan gynnwys ffefrynnau’r farchnad Dirty Gnocchi, The Bearded Taco, Ffwrnes Pizza a The Real Ting, weini eu prydau arbennig tan hwyr y nos. O ffefrynnau bwyd stryd i flasau byd-eang, mae’r farchnad nos yn addo rhywbeth at ddant pawb.

“Mae’n ymwneud ag agor un o fannau mwyaf poblogaidd Caerdydd i’r ddinas mewn ffordd newydd,” meddai’r Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau. “Rydyn ni eisiau i bobl brofi’r farchnad fel nad ydyn nhw erioed wedi’i gweld o’r blaen – wedi’i goleuo, yn llawn cerddoriaeth ac yn llawn bywyd. Mae’n gyfle i ddathlu egni creadigol Caerdydd a’r dalent anhygoel sy’n gwneud i’r ddinas hon ganu.”

Mae’r farchnad nos yn rhan o raglen ehangach o ddigwyddiadau Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, sy’n ceisio arddangos sîn gerddoriaeth y ddinas, cefnogi artistiaid lleol a chreu profiadau bythgofiadwy i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

P’un a ydych chi’n mynd i gig, bachu tamaid i’w fwyta, siopa gyda’r hwyr, neu’n syml yn mwynhau’r awyrgylch, mae marchnad nos Marchnad Caerdydd yn cynnig lle croesawgar am ddim i fwynhau’r gorau o gerddoriaeth a diwylliant y ddinas.

 

Cefnogir Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.