Dydd Mercher, 1 Hydref 2025


 

O 3 i 18 Hydref, bydd prifddinas Cymru’n dod yn fyw pan fydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn dychwelyd am ei hail flwyddyn – dathliad pythefnos o hyd fydd yn llawn gigs, digwyddiadau, sgyrsiau, gosodweithiau celf a safleoedd dros dro, gan harneisio pŵer cerddoriaeth, perfformio a thechnoleg i uno ac ysbrydoli.

Ar ôl haf lle roedd llygaid y byd ar Gaerdydd wrth i daith ddychwelyd Oasis gychwyn yn y ddinas, mae’r ŵyl yn foment nodedig yn Strategaeth Gerddoriaeth Cyngor Caerdydd.  Mae’r cynllun uchelgeisiol hwn wedi trawsnewid prifddinas Cymru’n un o brif ddinasoedd cerddoriaeth y DU, gyda cherddoriaeth fyw bellach yn cyfrannu cannoedd o filiynau bob blwyddyn at yr economi ac yn cefnogi miloedd o swyddi.

Trwy fuddsoddiad strategol mewn lleoliadau, cymorth i gerddorion sy’n dod i’r amlwg, a mentrau fel y Gronfa i Leoliadau Cerddoriaeth Llawr Gwlad, mae Cyngor Caerdydd wedi sicrhau bod y ddinas, yn ogystal â denu artistiaid teithiol rhyngwladol, yn meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent, llwyfannau a mannau.

Yn ogystal â’r cymorth hwn ar lawr gwlad, mae seilwaith yn cael ei ddatblygu gyda rhawiau yn y ddaear ar arena dan do newydd â lle i 16,500 o bobl, y rhagwelir y bydd yn cynhyrchu £100m bob blwyddyn ar gyfer economi De Cymru a dyfodol Neuadd Dewi Sant, Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, a sicrhawyd mewn cytundeb gydag AMG i gyflwyno lleoliad cerddoriaeth cyntaf yr Academi yng Nghymru.

Bydd yr ŵyl eleni yn cynnwys mwy na 200 o berfformiadau mewn mwy nag 20 lleoliad dros 15 diwrnod a bydd yn cynnwys noson gyda CVC y gwerthwyd pob tocyn ar ei chyfer a fydd yn agor yr ŵyl yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru; dychwelyd adref i’r cerddorion indie Los Campesinos!, a ddisgrifiwyd gan Pitchfork fel ‘band cwlt mwyaf apelgar yr 21ain ganrif’; y 15fed seremoni Gwobr Cerddoriaeth Gymreig flynyddol; gŵyl ddarganfod cerddoriaeth Sŵn; cyngerdd gala Canwr y Byd Caerdydd y BBC; Gŵyl Llais Canolfan Mileniwm Cymru, gyda Rufus Wainwright, Cate Le Bon a pherfformiad prin i’r DU gan Meredith Monk yn archwilio posibiliadau’r llais dynol, ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau trochi.

Wrth wraidd y strategaeth mae cymorth i wneuthurwyr cerddoriaeth a lleoliadau lleol, yn ogystal ag ail-lunio seilwaith diwylliannol y ddinas:

  • Buddsoddodd y Gronfa i Leoliadau Cerddoriaeth Llawr Gwlad mewn 17 lleoliad y llynedd, gan helpu canolfannau creadigol newydd a lleoliadau annwyl i ehangu a gwella eu cynnig, ac adeiladu ar waith y Cyngor i sicrhau cartref newydd i Sustainable Studios/Y Canopi a chefnogi adleoli Porter, gan eu galluogi i ffynnu.
  • Mae mentrau fel Little Gigs Bach, a ariennir gan Gyngor Caerdydd, yn darparu mynediad i offerynnau a gwersi i blant a fyddai fel arall yn colli allan – gan sicrhau y gall y genhedlaeth nesaf o gerddorion ffynnu.
  • Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ailddatblygu adeilad hanesyddol yr ‘Hen Lyfrgell’ yng nghanol y ddinas yn ganolfan ymarfer, dysgu a pherfformiad cyhoeddus, gan atgyfnerthu rôl Caerdydd fel canolfan addysg ac arloesi mewn cerddoriaeth.

 

Cadarnhaodd haf 2025 fod Caerdydd yn lle y mae’n rhaid ei berfformio ar deithiau byd-eang, gyda dros 900,000 o gefnogwyr yn mynd i ddigwyddiadau byw ledled y ddinas.  Pan ofynnwyd pam y dewisodd Oasis y ddinas ar gyfer eu taith fyd-eang, dywedodd Liam Gallagher: “oherwydd mai Caerdydd yw’r b*ll*x”. Gyda’i gilydd, cafodd y digwyddiadau hyn effaith economaidd o fwy na £90m i brifddinas Cymru.

Yn y cyfamser, mae sîn lawr gwlad ac annibynnol y ddinas yn parhau i ffynnu, gyda pherfformiadau fel Panic Shack, CVC, Mace the Great a Melin Melyn yn ennill clod rhyngwladol gan leoliadau megis Clwb Ifor Bach.

Dywedodd y Cynghorydd Jen Burke, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau Cyngor Caerdydd,

“Mae Caerdydd wastad wedi bod yn ddinas gyda cherddoriaeth yn ei gwaed. Nod ein Strategaeth Gerddoriaeth yw rhoi hynny wrth wraidd sut rydym yn tyfu – buddsoddi mewn lleoliadau, cefnogi pobl ar lawr gwlad, a chreu cyfleoedd i artistiaid ar bob lefel. Rydyn ni nawr yn gweld y canlyniadau: mae artistiaid mawr byd-eang eisiau chwarae yma, mae lleoliadau ar lawr gwlad yn ffynnu, ac mae’r genhedlaeth nesaf o gerddorion yn datblygu ei llais ei hun. Un ffordd yn unig o ddathlu’r hyn sy’n digwydd yw Gŵyl Ddinas Gerdd Caerdydd – ond mae hon yn ymwneud â mwy na gŵyl. Mae’n ymwneud â gwneud Caerdydd yn ddinas gerddoriaeth o’r radd flaenaf am ddegawdau i ddod.”

Meddai XXXX, sy’n perfformio yng Ngŵyl Dinas Gerdd Caerdydd:

I gael mwy o wybodaeth am Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, ewch i: https://dinasgerddcaerdydd.cymru/

Amserlen Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd:

Dyddiad Digwyddiad Lleoliad
Dydd Gwener 3 Hydref Noson yng nghwmni CVC

 

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Dydd Gwener 3 Hydref MPH + Ben Cripps + Shep + Viewpoints District
Dydd Gwener 3 – dydd Sadwrn 18 Hydref Llais: Ceci est mon coeur

 

Canolfan Mileniwm Cymru
Dydd Sadwrn 4 Hydref Gwobrau Cerddoriaeth Du Gymreig 2025 Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC)
Dydd Sadwrn 4 Hydref tan ddydd Sul 5 Hydref Dr Banana + Laidlaw + Lucas Alexander District
Dydd Sul 5 Hydref Tom Rasmussen + Alfie Sharp Clwb Ifor Bach
Dydd Llun 6 Hydref Gwobr Cerddoriaeth Cymru 2025 Canolfan Mileniwm Cymru
Dydd Mawrth 7 Hydref Pino Palladino & Blake Mills gyda Sam Gendel a Chris Dave The Gate
Dydd Mercher 8 Hydref BBC Canwr y Byd Caerdydd  Dathliad Canolfan Mileniwm Cymru
Dydd Mercher 8 Hydref COPA – Wrkhouse, Adjua, Casper James, Bruna Garcia The Gate
Dydd Iau 9 Hydref – dydd Sul 12 Hydref Gŵyl Llais Canolfan Mileniwm Cymru
Dydd Iau 9 Hydref SATORU: Catrin Finch & Lee House Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC)
Dydd Gwener 10 Hydref Mali Hâf Clwb Ifor Bach
Dydd Gwener 10 Hydref Robert Forster The Gate
Dydd Gwener 10 Hydref Blodeugerdd: Y Llyfr Caneuon Cymreig Mawr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC)
Dydd Sadwrn 11 Hydref TEAK: Go Into the Light gydag Esther, Rikki Humphery, Seka, David J Bull, James Teak Jacobs Basement
Dydd Sadwrn 11 Hydref DISCOMASS Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr
Dydd Sadwrn 11 Hydref Ensemble Ismael / Perfformiad Trochi Byw Cult VR
Dydd Sadwrn 11 Hydref Redzed + gwesteion arbennig Acid Rowe Clwb Ifor Bach
Dydd Sul 12 Hydref Los Campesinos! Y Plas
Dydd Sul 12 Hydref New Model Army Tramshed
Dydd Mawrth 14 Hydref Somebody’s Child The Gate
Dydd Mercher 15 Hydref Ddwy + Esther + Pypi Slysh Paradise Garden
Dydd Iau 16 Hydref – dydd Sadwrn 18 Hydref Sŵn 2025 Amrywiol
Dydd Iau 16 – dydd Gwener 17 Hydref Sŵn Connect 2025 Cornerstone
Dydd Iau 16 Hydref Uwchgynhadledd Gwyliau Cymru Cornerstone
Dydd Iau 16 Hydref Entangled Structures | MONOCOLOR Cult VR
Dydd Iau 16 Hydref Spyres + gwesteion arbennig Masa & Vain Paradise Garden
Dydd Gwener 17 Hydref Beardyman / Perfformiad Trochi Byw Cult VR
Dydd Gwener 17 Hydref The Gotobeds Paradise Garden
Dydd Sadwrn 18 Hydref Seth Lakeman The Gate
Dydd Sadwrn 18 Hydref Max Dean DEPOT

 

Mae amserlen lawn gyda mwy o sioeau, sgyrsiau a syrpreisys ar gael ar wefan Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd