Penderfyniad wedi'i wneud ar ddyfodol cyngherddau yng Nghaeau’r Gored Ddu

Mae disgwyl i gyngherddau yng Nghaeau’r Gored Ddu fynd ymlaen yn 2026 ar ôl i adolygiad a gynhaliwyd gan Gyngor Caerdydd ganfod bod cyngherddau yr haf hwn wedi arwain at fanteision economaidd sylweddol, ac ar y cyfan wedi cael eu cefnogi’n dda gan bobl leol.
Roedd y cyngerdd yn cefnogi dros 3,000 o swyddi, 95% ohonynt gyda busnesau o Gymru oedd yn rhan o gadwyn gyflenwi’r digwyddiad. Mae’r data cychwynnol yn dangos bod gwerthiannau a nifer yr ymwelwyr yng nghanol y ddinas wedi cynyddu yn ystod y mis y cynhaliwyd y cyngherddau o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2024, gyda gwerthiant y sector adloniant yn cynyddu’n sylweddol a gwerthiannau bwyd a diod hefyd yn ffynnu.
Mynychodd dros 100,000 o bobl gyfres cyngherddau yr haf hwn, gan fwynhau perfformiadau gan y sêr byd-eang Noah Kahan, Alanis Morissette, Slayer a Stevie Wonder. Mae ffigyrau’n dangos bod 49% o’r mynychwyr wedi teithio o’r tu allan i Gymru, gyda mwy na 3,000 o dwristiaid cerddoriaeth yn teithio o’r tu allan i’r DU i ymweld â Chaerdydd.
Fel rhan o’r adolygiad, cynhaliodd y cyngor arolwg ar-lein hefyd. Ymgysylltwyd hefyd â phreswylwyr a busnesau lleol, yr holl fasnachwyr oedd yn gweithredu yn y parc, yr holl glybiau chwaraeon sy’n defnyddio’r parc, a Chyfeillion Parc Bute.
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:
“Mae cyngherddau Blackweir Live wedi cyfrannu at haf anhygoel o gerddoriaeth yng Nghaerdydd ac mae’n amlwg nid yn unig fod ganddyn nhw gefnogaeth y mwyafrif o’r preswylwyr, ond y gallant hefyd ein helpu i barhau i gyflawni ein strategaeth gerddoriaeth, cefnogi ein gwaith i wella mannau gwyrdd y ddinas a dod â gwerth miliynau o bunnoedd o fanteision economaidd i’r ddinas.”
Mae’r data’n dangos:
- Mynychodd 100,000+ o bobl gyfres o gyngherddau yr haf hwn.
- Teithiodd 49% o’r mynychwyr o’r tu allan i Gymru.
- Daeth 2.6% o’r mynychwyr o’r tu allan i’r DU.
- Roedd y digwyddiadau yn cyflogi 3118 o bobl.
- Roedd 95% o’r swyddi hyn mewn busnesau yng Nghymru.
- Yn ôl data gwariant gan Beauclair – cwmni data arbenigol y stryd fawr, cynyddodd gwerthiannau canol y ddinas yn ystod mis y cyngherddau 15.6% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2024, gyda gwerthiannau’r sector adloniant i fyny 231.2% a gwerthiannau bwyd a diod i fyny 20.1%.
- Cododd y digwyddiadau hefyd fwy na £60,000 ar gyfer elusennau.
Bydd parhau i gynnal cyngherddau yng Nghaeau’r Gored Ddu hefyd yn creu incwm i’r Cyngor ei ddefnyddio i gefnogi sector cerddoriaeth y ddinas a gwneud gwelliannau i barciau a mannau gwyrdd.
Bydd incwm gafodd ei greu o gyfres cyngherddau yr haf hwn yn cyfrannu at rownd bellach o gyllid lleoliadau ar lawr gwlad, yn debyg i gynllun diweddar a welodd £200,000 o gyllid cyfalaf yn cael ei roi i leoliadau annibynnol yn y ddinas. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi parhad cynllun llwyddiannus datblygu talent ‘Gigs Bach’ y Cyngor, a chyflawni gwaith dinas gerdd ehangach y Cyngor.
Bydd amrywiaeth o brosiectau gwella ym mharciau Caerdydd hefyd yn cael eu hariannu gydag incwm o’r cyngherddau, gan gynnwys rhaglen newid arwyddion parciau, a cham dau y rhaglen rheoli coetir a ddechreuodd cyn cyngherddau’r haf eleni. Bydd y cam hwn yn canolbwyntio ar y coetir hynafol i’r gogledd o Gaeau’r Gored Ddu a bydd yn cynnwys ystod o fesurau cadwraeth gyda’r nod o wella bioamrywiaeth ar y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig hwn.
Yn ogystal â dangos cefnogaeth i gyngherddau yn y dyfodol, mae’r arolwg yn rhoi adborth da fydd yn helpu’r Cyngor i wella’r gwaith o gyflwyno’r digwyddiadau yn y dyfodol. Y prif bryderon a godwyd yn ogystal â cholli mynediad i Gaeau’r Gored Ddu ar gyfer cyfnod y digwyddiadau oedd mwy o dagfeydd traffig, problemau parcio a sŵn.
Ychwanegodd y Cynghorydd Burke: “Bydd dod o hyd i gydbwysedd rhwng sicrhau’r manteision mwyaf o ddigwyddiadau yn y dyfodol a lleihau unrhyw effaith ar amgylchedd y parc a thrigolion wrth wraidd ein meddwl cyn digwyddiadau’r dyfodol ac rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda hyrwyddwyr digwyddiadau a chymunedau lleol i adeiladu ar lwyddiant yr haf.”
Er mwyn lleihau’r effaith ar y parc a’r tarfu ar ddefnyddwyr y parc, y bwriad yw i gyngherddau yn y dyfodol fod ar y safle am lai na 28 diwrnod gan gynnwys amserau adeiladu a thynnu digwyddiadau i lawr, os yn bosibl.
Os oes modd cyflawni hyn, ni fyddai caniatâd cynllunio “newid defnydd” yn ofyniad cyfreithiol, fodd bynnag, fel mesur rhagofalus, ac er mwyn sicrhau bod y gymuned yn cael cyfle pellach i rannu eu barn, bydd cais cynllunio ar gyfer y digwyddiadau yn cael ei wneud maes o law.