Tom Rasmussen + Alfie Sharp

Dyddiad(au)

05 Hyd 2025

Amseroedd

19:30

Lleoliad

Clwb Ifor Bach, 11 Stryd Womanby, Caerdydd CF10 1BR

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd eleni, mae Francis Brown o Newsoundwales wedi curadu noson i ddathlu 2 artist LHDTC+ sy’n dod i’r amlwg.

Mae Tom Rasmussen yn artist o Lundain ac yn ffigwr amlwg yn y gymuned LHDTC+. Yn adnabyddus am eu cerddoriaeth ddawns dywyll sy’n cyfuno pop, y diwylliant clwb cwiar, a’u profiadau fel cyn-berfformiwr drag, derbyniodd albwm cyntaf Tom, Body Building (Globe Town Records 2023), ganmoliaeth feirniadol, ac fe gafodd eu hail albwm, Live Wire, ei ryddhau yn 2024.

Mae Alfie Sharp wedi cael ei ddisgrifio gan gylchgrawn NME fel ‘gwir seren soul yfory’. Fe aeth ei sengl gyntaf ‘Nostalgia’, a ryddhawyd yn 2019, i rif 2 siart R&B iTunes. Aeth ymlaen i ryddhau ei EP cyntaf ‘Home Truths’ yn 2024, ac fe gafodd ei amlygu gan Spotify fel artist RADAR ac ennill cefnogaeth ar draws y diwydiant gan gynnwys BBC Introducing, Radio 1 a The Times.