Entangled Structures | MONOCOLOR
Dyddiad(au)
16 Hyd 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Cyfle i brofi perfformiad Realiti Ymestynnol byw cyfareddol yng nghryndo CULTVR
Mae Entangled Structures yn berfformiad clyweledol trochol gan yr artist o Fienna, MONOCOLOR. Tu mewn i’r cryndo, cewch eich amgylchynu â sioe o linynnau ac edafedd monocromatig sy’n symud, cordeddu a newid – fel cerflunwaith rhithwir sy’n esblygu’n barhaus. Weithiau mae’n teimlo’n solet a phensaernïol, dro arall yn freuddwydiol a chyfnewidiol.
Mae’r perfformiad trochol unigryw yma’n wahoddiad i archwilio gofod lle mae’r digidol a’r ffisegol yn cwrdd gan bylu ffiniau’r hyn sy’n real a rhithwir, a chynnig moment i fyfyrio ar sut rydyn ni’n bodoli mewn dau fyd ar unwaith.
Cafodd y gwaith ei greu fel rhan o Raglen Breswyliadau Trochol Catalydd 360º. / Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. / Gyda chefnogaeth Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.
16 Hydref 2025
Drysau’n agor: 7pm
Perfformiad yn y Cryndo: 8pm
Bydd sesiwn Holi ac Ateb gyda’r artist wedi’r perfformiad
Tocynnau: £22.50 / Tocynnau Cyw Cynnar: £17.50