Neidio i'r prif gynnwys

Swyddi | Technegydd Llwyfan Deithio | WNO

Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn lle creadigol ac ysbrydoledig i weithio ynddo ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn chwilio am Dechnegydd Llwyfan Deithio i ymuno â’r adran Dechnegol. Mae’r swydd yn cynnwys darparu elfennau llwyfannu o safon uchel ar gyfer cynyrchiadau, digwyddiadau, a phrosiectau, mewn ffordd effeithiol sy’n meithrin amgylchedd gwaith diogel, iach, a chynaliadwy. Fel Technegydd Llwyfan Deithio, byddwch yn bennaf yn canolbwyntio ar gyflawni tasgau ymarferol ar gyfer yr Adran Lwyfan, megis ymdrin â golygfeydd a chynnal a chadw, hedfan, rigio a llwytho cerbydau yn ddiogel.

Fel Technegydd Llwyfan Deithio, bydd angen i chi ddefnyddio eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymarferol o grefft llwyfan er mwyn sicrhau bod ein cynyrchiadau yn cyrraedd y safon uchaf bosibl, ac yn adlewyrchu gweledigaeth artistig a chreadigol y tîm cynhyrchu, a hynny yng Nghaerdydd ac wrth deithio.

Byddwch yn gyfrifol am ddarparu arbenigedd technegol ymarferol mewn meysydd megis gwaith coed ar gyfer cynhyrchiad, hedfan theatraidd, llwytho cerbyd yn ddiogel, a chodi a chario trwm. Yn ychwanegol, bydd y gallu i weithio mewn tîm yn hanfodol wrth i chi gefnogi’r gwaith o oruchwylio Cynorthwywyr Technegol, Prentisiaid, Technegwyr Lleoliad, a Chriw Asiantaeth ar y safle.

Byddwch yn mynychu Cyfarfodydd yr Adran Lwyfan a Thechnegol yn ôl yr angen, ac yn helpu i ddirprwyo tasgau o fewn yr adran. Yn ogystal, byddwch yn cyfrannu at weithrediad llwyddiannus agweddau gweinyddol ac ariannol.

 

Dyddiad cau: 21/07/2025
Cyfweliadau i ddigwydd yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 28 Gorffennaf

Manylion YMA
(Cyngor Celfyddydau Cymru)