Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn Cyhoeddi Cymrodyr Anrhydeddus 2025

Dathlu arweinwyr creadigol, hyrwyddo cynhwysiant ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf: Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn Cyhoeddi Cymrodyr Anrhydeddus 2025
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn falch o gyhoeddi ei Gymrodyr Anrhydeddus 2025 – saith arweinydd diwylliannol, artist ac addysgwr arloesol sy’n diffinio cred y Coleg yng ngrym y celfyddydau i newid bywydau, dod â phobl ynghyd a thrawsnewid cymdeithas. Mae gan bob un ohonynt gysylltiad ystyrlon â’r Coleg, gan gefnogi ei hyfforddiant a’i fentora o’r genhedlaeth nesaf o artistiaid ac arweinwyr.
Bydd y Cymrodyr yn cael eu hanrhydeddu yn seremonïau graddio’r Coleg a gynhelir yn Neuadd Dora Stoutzker ar ddydd Iau 10 a dydd Gwener 11 Gorffennaf 2025.
Eleni mae’r Coleg yn croesawu’r canlynol yn Gymrodyr Anrhydeddus:
Cymrodyr Anrhydeddus 2025 CBCDC
- Liam Evans-Ford – Cyfarwyddwr Gweithredol a Phrif Swyddog Gweithredol Theatr Clwyd
- Barry Farrimond-Chuong MBE – Prif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd Open Up Music, elusen sy’n trawsnewid mynediad at gerddoriaeth i bobl ifanc anabl
- Max Humphries – Graddedig y cwrs Cynllunio ar gyfer Perfformio a chynllunydd pypedau gwobrwyedig
- Mari Pritchard – Cydlynydd Cenedlaethol Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru
- Rhian Samuel – Un o gyfansoddwyr presennol pwysicaf Cymru
- Huw Stephens – cyflwynydd BBC Cymru a BBC Radio 6 a hyrwyddwr talent newydd o Gymru
- Anjana Vasan – actor sydd wedi ennill Gwobr Olivier ac a raddiodd o CBCDC
‘Mae ein Cymrodyr Anrhydeddus 2025 yn ein hysbrydoli nid yn unig trwy eu cyflawniadau ond trwy eu cred yng ngrym y celfyddydau i gysylltu, grymuso a newid bywydau,’ meddai’r Prifathro Helena Gaunt.
‘Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn falch o fod yn rhan o ecosystem greadigol sy’n meithrin talent, yn ysgogi arloesedd ac yn helpu i lunio dyfodol gwell yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r unigolion hyn yn adlewyrchu’r gorau o’r genhadaeth honno, ac mae’n anrhydedd i ni eu croesawu i gymuned y Coleg.’
Maent yn ymuno â rhestr nodedig o Gymrodyr CBCDC, a ddyfernir bob blwyddyn i anrhydeddu artistiaid sydd wedi cyflawni rhagoriaeth yn y diwydiannau celfyddydau creadigol a pherfformio, gan adeiladu perthynas llawn ysbrydoliaeth â’r Coleg a’i waith.