Neidio i'r prif gynnwys

CULTVR Academi | Trin fideo byw mewn digwyddiadau

Trin fideo byw mewn digwyddiadau – gan ddefnyddio Resolume

Bydd y cwrs byr yma’n cynnig man cychwyn ar gyfer trin ac addasu fideo mewn digwyddiadau byw, neu i greu cynnwys. Mae’n wahanol i ddulliau golygu a phrosesu fideo traddodiadol; mae llif y gwaith creu yn digwydd mewn amser real – mae’n gyflym ac yn hwyl i’w ddefnyddio.

Byddwn yn defnyddio meddalwedd VJ safonol y diwydiant sef: Resolume Avenue/Arena. Defnyddir y feddalwedd yma’n bennaf ar gyfer elfennau gweledol mewn cyngherddau a chlybiau – ond mae hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau corfforaethol, cynhyrchu graffeg symudiad, mapio tafluniadau a ffrydio byw. Mae’n cael ei ddefnyddio gan amrywiaeth fawr o artistiaid a gweithwyr creadigol gan gynnwys DJs, cerddorion, fideograffwyr, cynllunwyr graffeg, cynhyrchwyr digwyddiadau, technegwyr fideo ac artistiaid clyweledol.

Gan ddechrau o’r dechrau, byddwn yn edrych ar ryngwyneb y feddalwedd – gan ddysgu sut i lwytho, lansio a chymysgu cynnwys fideo, gam wrth gam o’r dechrau i’r diwedd. O’r pwynt hwnnw, byddwn yn gallu ychwanegu gwahanol fathau o ddeunydd a chynnwys, effeithiau fideo ac elfennau rheoli ffisegol i greu perfformiad ymatebol y gellir ei osod i gerddoriaeth neu ei gyflwyno ar ei ben ei hun. Bydd cyfle hefyd i ddysgu am rai o agweddau technegol gweithio gyda fideo a sut i ddatblygu arddull unigryw eich hun a chreu cynnwys gwreiddiol.

Bydd y gweithdy’n cael ei arwain gan Nick Feldman – darlithydd profiadol, cynllunydd ac arweinydd cyrsiau a mentor sydd wedi ennill enw iddo’i hun ym myd addysg cerddoriaeth gyfoes. Mae’n cael ei wahodd yn gyson i ddysgu mewn amryw o sefydliadau nodedig gan gynnwys BIMM, Guildhall School of Music and Drama a’r Institute of Contemporary Music Performance (ICMP).


Beth fyddwch yn ei ddysgu ar y cwrs

 – Hanes a datblygiad fideo byw.
– Trefn elfennau prosiect a rhyngwyneb Avenue/Arena.
– Adeiladu prosiect VJ unigryw, cam wrth gam o’r dechrau i’r diwedd.
– Defnyddio llinellau amser ac ychwanegu elfennau modiwleiddio.
– Ychwanegu elfennau mapio MIDI i ddyfeisiau rheoli ffisegol.
– Defnyddio effeithiau fideo a ffynhonellau cynhyrchiol (generative).
– Defnyddio adweithedd sain i greu egni ychwanegol.


Dyddiadau:
Dydd Sadwrn 5 Gorffennaf / Dydd Sul 6 Gorffennaf 2025.


Amserlen y ddau ddiwrnod:
10.30-17:00


Pris:
£150 (£100 – gostyngiad i fyfyrwyr)


Bydd lle i uchafswm o 16 o bobl ar y cwrs.    

Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol yn y maes arnoch i gymryd rhan yn y cwrs yma.

 

Manylion YMA