Grantiau Loteri Tŷ Cerdd

Newyddion gan Tŷ Cerdd:
Mae Tŷ Cerdd yn dosbarthu cyllid y Loteri ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru i helpu sefydliadau i ddatblygu cerddora ym mhob genre mewn cymunedau ledled Cymru.
Mae tair elfen – Creu, Ymgysylltu ac Ysbrydoli – yn cefnogi amrywiaeth o waith. Caiff eich sefydliad wneud cais i un, dau neu dri photyn ar yr un pryd os oes gynnoch chi weithgarwch sy’n gweddu i’r blaenoriaethau a’r canllawiau.
Blaenoriaethau
-
Meithrin cerddoriaeth newydd
-
Creu partneriaethau rhwng artistiaid a sefydliadau
-
Helpu i ddod â chymunedau ynghyd
-
Ysbrydoli pobl ifainc
Ac mae ein diddordeb pennaf mewn prosiectau sy’n cynnig cyfleoedd i unigolion a chymunedau sy’n cael eu tangynrychioli neu sydd wedi’u hesgeuluso a’u heithrio.
Creu – Cronfa i gefnogi creu gwaith newydd gan gyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth mewn unrhyw genre. Gallwch wneud cais am hyd at £2,000 gan Creu i gomisiynu cyfansoddwr, cydweithio ag artist preswyl neu ymuno â chrëwr cerddoriaeth i gyfansoddi darn newydd i’ch grŵp.
Ymgysylltu – Gan ariannu amrywiaeth o weithgarwch – o berfformiadau byw i gynyrchiadau ar-lein, o weithdai i gydweithrediadau cymunedol – mae Ymgysylltu yn cynnig grantiau rhwng £250 a £2,000 tuag at weithgarwch sy’n ymestyn allan at gynulleidfaoedd a chymunedau.
Ysbrydoli – Gyda phobl ifainc yn ganolog iddo, mae Ysbrydoli yn gallu cefnogi’ch sefydliad hyd at gyfanswm o £2,000 am brosiect cerdd i gyfranogwyr o dan 26 oed neu o dan 31 ar gyfer cyfranogwyr anabl.
Dyddiad(au) cau ar gyfer rowndiau nesaf:
16 Gorffennaf 2025
15 Hydref 2025
21 Ionawr 2026
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar: 029 2063 5640 / lottery@tycerdd.org
neu ymunwch â ni am Sesiwn Holi ac Ateb:
Dydd Llun 16 Mehefin, 12yp
Dydd Mercher 25 Mehefin, 5yp
Dydd Iau 3 Gorffennaf, 10yb