UN AR DDEG O DDINASOEDD Y DU YN YMUNO I GYHOEDDI'R AROLWG 'MUSIC FANS VOICE'

Mae’r Adolygiad Cynhwysfawr yn Rhoi Llais i Gefnogwyr Cerddoriaeth yn y Sector Cerddoriaeth Fyw am y Tro Cyntaf
Mae’r gefnogaeth a’r brwdfrydedd dros gerddoriaeth fyw yn parhau i fod yn uchel ond mae pryderon ynghylch polisïau tocynnau, canslo digwyddiadau, cau lleoliadau a’r costau byw cynyddol
Mae arolwg manwl o’r enw ‘Music Fans Voice’ wedi rhoi cipolwg unigryw ar ymddygiad, canfyddiadau, pryderon, cymhellion a barn mynychwyr cyngherddau cerddoriaeth fyw y DU.
Mae’r fenter eang hon yn adeiladu ar argymhellion gan Bwyllgor Dethol Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Senedd y DU ar gyfer adolygiad o gerddoriaeth fyw ac electronig dan arweiniad cefnogwyr, ac fe’i cynlluniwyd a’i weithredu gan CGA gyda NIQ. Cafodd ei gomisiynu gan awdurdodau lleol mewn 11 o ddinasoedd y DU gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf, Maer Llundain, Awdurdod Cyfun Rhanbarth Dinas Lerpwl, Awdurdod Cyfun Gorllewin Canolbarth Lloegr, Awdurdod Cyfun Tees Valley, Cyngor Dinas Belfast a Dinas Gerdd Glasgow, gyda chefnogaeth gan Awdurdod Cyfun Gorllewin Swydd Efrog, Cyngor Dinas Brighton a Chyngor Dinas Southend.
Gan ddefnyddio adborth gan dros 8000 o ymatebwyr ledled y wlad a gasglwyd rhwng 3 Chwefror a 4 Mawrth 2025, mae’r arolwg yn cynnig darlun cynhwysfawr o ddiwydiant cerddoriaeth fyw y DU o safbwynt cefnogwyr.
Mae’r data a gasglwyd wedi datgelu brwdfrydedd a chefnogaeth barhaus i gerddoriaeth fyw, gyda’r rhai a holwyd yn tynnu sylw at farn gadarnhaol o’r sector:
- Mae dros 99% o’r rhai a holwyd yn cytuno bod digwyddiadau cerddoriaeth fyw yn rhan bwysig o ddiwylliant y DU
- Mae 95% yn credu eu bod yn bwysig mewn perthynas ag enw da rhyngwladol y DU.
- Roedd y mwyafrif a gafodd eu cyfweld (68%) yn teimlo mai’r DU yw arweinydd y byd mewn digwyddiadau cerddoriaeth fyw.
Fodd bynnag, tynnwyd sylw at sawl maes pryder hefyd yn enwedig ynghylch ailwerthu tocynnau, prisio deinamig a’r farchnad eilaidd, gan arwain at gasgliad bod angen diwygio’r maes hwn o’r diwydiant cerddoriaeth fyw:
- Mae 97% o gefnogwyr cerddoriaeth yn credu y dylai ailwerthu tocynnau am eu gwerth enwol gael ei ganiatáu.
- Fodd bynnag, roedd galwad ysgubol am wahardd ailwerthu tocynnau am bris uwch gyda 91% yn galw am ddeddfwriaeth i roi terfyn ar yr arfer.
- Mae’r un ganran hefyd yn credu y dylai prisio deinamig gael ei wahardd.
- Dim ond 11% o’r rhai a oedd wedi prynu tocynnau am bris deinamig sy’n credu bod y cysyniad wedi’i gyfathrebu’n ddigonol iddynt ar y pwynt gwerthu.
Roedd yr arolwg hefyd yn glir bod cefnogwyr cerddoriaeth yn poeni’n fawr am ddiogelu’r ecosystem cerddoriaeth fyw ar gyfer y dyfodol. Dangosodd yr ymatebwyr gefnogaeth enfawr i ymyriadau sy’n cydnabod rôl bwysig cerddoriaeth fyw mewn cymdeithas:
- Mae 84% o gefnogwyr yn dweud eu bod wedi mynychu sioeau i gefnogi cerddoriaeth fyw ac artistiaid
- Cyfeiriodd 71% o’r ymatebwyr at eu cefnogaeth i’w sîn gerddoriaeth leol ac artistiaid lleol fel rheswm allweddol dros ymweld â lleoliadau.
- Mae 94% o’r ymatebwyr yn credu y dylai lleoliadau cerddoriaeth a chlybiau nos arwyddocaol gael rhyw fath o statws gwarchodedig.
- Mae 93% yn cefnogi’r cysyniad o’r Ymddiriedolaeth Fyw, lle byddai £1 o bob sioe mewn stadiwm neu arena sydd â’r gallu i ddal dros 5000 o bobl yn mynd i gronfa sy’n cefnogi’r sector cerddoriaeth ar lawr gwlad yn uniongyrchol.
Tuedd bryderus arall gafodd ei thrafod oedd y gostyngiad mewn presenoldeb mewn digwyddiadau cerddoriaeth fyw, gyda dros 50% o’r ymatebwyr yn nodi costau byw / cyfyngiadau ariannol fel y prif reswm dros beidio â mynychu cymaint o sioeau ag y byddent yn dymuno a 91% yn cytuno y byddai prisiau tocynnau is yn annog mwy o bresenoldeb.
I grynhoi, daeth arolwg Music Fans Voice i’r casgliad bod y diwydiant cerddoriaeth fyw yn ffynnu o ran ymgysylltiad cefnogwyr ac yn parhau’n rhan hanfodol a deinamig o ddiwylliant.
Canfu fod cefnogwyr yn buddsoddi’n ddwfn mewn cefnogi cerddoriaeth fyw, ond bod pwysau ariannol cynyddol, pryderon prisio deinamig a chau lleoliadau yn bygwth cynaliadwyedd hirdymor.
Er bod cefnogwyr cerddoriaeth yn parhau i fynychu digwyddiadau, dylid nodi bod llawer yn dewis a dethol mwy oherwydd pryderon fforddiadwyedd, gydag opsiynau tocynnau hyblyg a thryloywder ynghylch prisio yn dod yn ffactorau hanfodol i fynd i’r afael â a chynnal ymgysylltiad.
Dywedodd Sam Duckworth, artist sy’n perfformio fel Get Cape, Wear Cape, Fly, “Cefnogwyr Cerddoriaeth yw hanfod ein diwydiant ac yn haeddu bod yn ganolbwynt i sgyrsiau am ei phresennol a’i dyfodol. Trwy ymdrechion ar y cyd y dinasoedd cerdd mawr, maen nhw wedi cael sedd wedi’i arwain gan ddata ar y prif fwrdd. Mae hyn yn sicrhau bod cefnogwyr ledled y DU yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu parchu a bod y cyfeiriad yn ystyried eu rôl hanfodol nhw yn sicrhau bod cerddoriaeth fyw yn parhau i fod yn flaenllaw yn Niwylliant Prydain.”