Neidio i'r prif gynnwys

Swyddi | Technegydd Llwyfan Awdur | Canolfan Mileniwm Cymru

Canolfan Mileniwm Cymru | Teitl y Rôl: Technegydd Llwyfan

Dyddiad Cau: 03 Ebrill 2025

Amdanom ni/Ein Hadran:

Canolfan Mileniwm Cymru yw canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru. Wedi’i lleoli ym Mae Caerdydd mae’n croesawu artistiaid a chynyrchiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae llwyddiant CMC yn ddibynnol i raddau helaeth ar ddarpariaeth ei gwasanaethau technegol a’r defnydd o’i chyfleusterau o safon fyd-eang. Rydym yn chwilio am Dechnegydd Llwyfan i ymuno â ni a pharhau â’n llwyddiant.

  • Fel rhan o dîm o 14 o staff technegol, byddwch yn gweithio’n bennaf gyda’r Adran Dechnegol.
  • Bydd y rôl yn hwyluso’r broses o osod, datgymalu a rhedeg digwyddiadau amrywiol, yn amrywio o sioeau gerdd, cabaret, bandiau byw i ddigwyddiadau awyr agored yn ac o amgylch yr adeilad.
  • Mae CMC hefyd yn gartref i dri lleoliad arall, sef Theatr Donald Gordon sydd â 1900 o seddi, Stiwdio Weston sydd â 250 o seddi, a lleoliad Cabaret gyda 120 o seddi. O bryd i’w gilydd mae’n bosib y byddwch yn gweithio ar gynyrchiadau a digwyddiadau eraill a gynhelir yn y lleoliadau hyn.
  • Mae’r rôl yn atebol i Bennaeth y Llwyfan a’r Prif Drydanwr.
  • Mae’r wythnos waith yn 38.5 awr ar gyfartaledd dros gyfnod o 17 wythnos.

Manylion YMA