Côr newydd yn chwilio am sêr y dyfodol oed 9-25 yn Ne Cymru

Mae côr cymysg newydd sbon, Aloud Voices, yn galw am aelodau newydd o bob gallu a math o lais rhwng 9 a 25 oed ledled De Cymru.
Wedi’i hwyluso gan The Aloud Charity, nod Aloud Voices yw ysbrydoli a datblygu talent lleisiol mewn amgylchedd hwyliog, cefnogol — trwy ymarferion wythnosol mewn gwahanol leoliadau, ychydig i’r gogledd o Gaerdydd.
Mae Aloud Voices yn cynnwys tri chôr: Aloud Junior Voices, ar gyfer plant ym mlynyddoedd ysgol 5 a 6 (Only Kids Aloud gynt); Aloud Intermediate Voices, i bobl ifanc ym mlynyddoedd ysgol 7 i 9; ac Aloud Voices, ar gyfer y rhai ym mlwyddyn ysgol 10 hyd at 25 oed.