Neidio i'r prif gynnwys

Y tu ôl i’r Sîn gydag Adam Williams

Fe ddalion ni lan gyda’r hyrwyddwr Adam Williams, sydd wedi bod y tu ôl i gigs yn yr eiconig Clwb Ifor Bach ac ar draws Caerdydd ers degawd a hanner.

Mae angen mwy ar Ddinas Gerdd na cherddorion. Mae sioe fyw yn gofyn am dîm o bobl angerddol, i gyd yn tynnu at ei gilydd i lwyfannu’r perfformiad. Un o’r rolau allweddol hynny yw’r hyrwyddwr, sy’n tynnu’r holl rannau cyfansoddol hynny at ei gilydd. Ni allem feddwl am neb gwell i roi cipolwg i ni ar fywyd yr hyrwyddwr nag Adam Williams, sydd wedi bod y tu ôl i gigs yn yr eiconig Clwb Ifor Bach ac ar draws Caerdydd ers degawd a hanner.

 DARLLENWCH EIN CYFWELIAD GYDAG ADAM WILLIAMS



Esboniwch y drefn arferol mewn diwrnod ym mywyd hyrwyddwr.

E-byst, galwadau, cyfarfodydd, e-byst, cinio, e-byst, cyfarfodydd, MAEN NHW EISIAU FAINT?!?!

Beth yw’r peth gorau am hyrwyddo?

Y rhan orau o fod yn hyrwyddwr yw gwneud i’r syniadau hynny ddigwydd. Mae’r daith o’r syniad i gyhoeddi’r sioe yn dal yn gyffrous i mi er gwaethaf yr heriau chi’n eu hwynebu ar hyd y ffordd.

Beth mae’r cyfle i weithio mewn maes rydych chi’n angerddol amdano wedi’i roi i chi?

Mae wedi fy ngalluogi i weithio gyda phobl sy’n rhannu’r un angerdd. Rydyn ni wedi cyflogi cymaint o bobl dros y blynyddoedd yng Nghlwb Ifor, mae’n rhoi cymaint o foddhad i mi allu gweithio gyda phobl sy’n camu i’r diwydiant am y tro cyntaf. Dyw’r cyfle i wneud y swydd hon yng Nghymru ddim chwaith yn rhywbeth rwy’n ei gymryd yn ganiataol, mae’n rhywbeth rwy’n meddwl amdano drwy’r amser. Mae mor bwysig ein bod yn gallu hyfforddi mwy a mwy o bobl i weithio yn y diwydiant hwn. Hebddyn nhw, does dim dinas gerdd.

Beth sy’n arbennig am sîn gerddoriaeth Caerdydd?

Cydweithredu! Rydyn ni wedi ei chael hi’n eithaf anodd yng Nghaerdydd dros y 15 mlynedd diwethaf. Mae’r holl leoliadau a roddodd i mi fy nghyfle cyntaf i hyrwyddo i gyd wedi mynd. Cardiff Arts Institute, Buffalo, Undertone, 10 Feet Tall, Gwdihw. Rwy’n credu bod hyn wedi gwneud y sîn yn gryfach ac yn fwy gwydn. Dwi ddim yn credu bod artistiaid yn rhannu ac yn cydweithio ar y lefel hon mewn unrhyw ddinas arall, sy’n gwneud sîn gerddoriaeth Caerdydd yn arbennig iawn yn fy marn i.

Uchafbwynt mwyaf cofiadwy Gŵyl Sŵn 2024? (rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gyntaf)

Anthony Smzierek a Lily Fontaine (Athro Saesneg) yn canu Overload gan Sugababes yn Tramshed.

Beth mae cerddoriaeth fyw yn ei feddwl i chi?

I fi, does dim byd gwell na sioe cerddoriaeth fyw nos Wener. Ar  Stryd Womanby siŵr o fod gyda thri artist o Gymraeg chi’n gweld am y tro cyntaf.  Wedi’r sioe, y pellaf sydd eisiau i chi fynd y tu allan i Stryd Womanby yw The Queens Vaults tan hanner nos ac mae Fuel Rock Club yn dechrau eich galw nôl i mewn.

Sut ddechreuoch chi yn y maes hyrwyddo cerddoriaeth fyw?

Fe wnes i wirfoddoli yn swyddfa Sŵn wythnos yr ŵyl yn 2010.  Dyna’r tro cyntaf i mi fod yn yr amgylchedd hwnnw.  Fy unig dasg oedd lamineiddio arwyddion ac mae’n rhaid ’mod i wedi lamineiddio miloedd ohonyn nhw.  Ar un adeg gofynnwyd i mi stopio lamineiddio oherwydd doedden nhw ddim yn gallu ymdopi â’r drewdod mwyach.  Dyna le ddechreuodd y cyfan mewn gwirionedd. 15 mlynedd yn ddiweddarach a dwi’n bwcio ar gyfer yr ŵyl honno. Mae rhai pobl yn dal i alw fi’n “Laminator” hyd heddiw.

CADWCH YN GYFOES

Cofrestrwch ar gyfer Dinas Gerdd Caerdydd i dderbyn diweddariadau cyffrous yn ymwneud â cherddoriaeth, digwyddiadau, pethau i'w gwneud a mwy gan y tîm. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn un o nifer o brosiectau gan Ddinas Gerdd Caerdydd, a reolir gan Gyngor Caerdydd.