Blwyddyn Cymru Japan 2025: Galwad am Ddatganiadau o Ddiddordeb
Blwyddyn Cymru Japan 2025: Galwad am Ddatganiadau o Ddiddordeb
Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Prydeinig Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn gwahodd mynegi diddordeb am gyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau a fydd yn digwydd rhwng Cymru a Japan rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025
Nod y cyfle ariannu hwn yw:
– cyfoethogi ac ehangu partneriaethau a chydweithrediadau celfyddydol presennol rhwng Cymru a Japan
– datblygu cysylltiadau a chydweithrediadau artistig a diwylliannol newydd a fydd yn meithrin perthnasoedd cynaliadwy hirdymor rhwng artistiaid, sefydliadau celfyddydol ac ymarferwyr diwylliannol
Mae’n agored i unigolion a sefydliadau sy’n gweithio yn y celfyddydau yng Nghymru.