Neidio i'r prif gynnwys

ALLBWN / OUTPUT

Cronfa beilot newydd sy’n cyfyngu’r risg i hyrwyddwyr a bandiau sy’n perfformio cerddoriaeth fyw wreiddiol yng Nghaerdydd.



Mae Dinas Gerdd Caerdydd yn falch o gyflwyno cynllun peilot newydd i gefnogi hyrwyddwyr mewn lleoliadau cerddoriaeth bach a llawr gwlad yn y ddinas. Bydd ALLBWN / OUTPUT yn rhoi gwarant rhag colli hyd at £1,000*. Bydd y cynllun hwn, sydd wedi’i gynllunio i gynyddu nifer y gigs yn y ddinas, ar agor i hyrwyddwyr newydd yn ogystal â’r rheini sydd eisoes â phrofiad yn y maes. Bydd hefyd yn agored i fandiau lleol a hoffai hyrwyddo eu gigs eu hunain.

*Sylwer mae Telerau ac Amodau yn berthnasol.

Amcanion ar gyfer ALLBWN / OUTPUT

  • Annog hyrwyddwyr newydd i gymryd eu camau cyntaf yn y busnes heb orfod ysgwyddo’r holl risg ariannol.
  • Caniatáu i hyrwyddwyr mwy sefydledig ehangu, naill ai trwy defnyddio lleoliad mwy o ran maint neu drwy arbrofi gyda genre gwahanol.
  • Galluogi bandiau lleol i adeiladu dilyniant drwy hwyluso digwyddiadau hunan-hyrwyddo.
  • Ehangu’r arlwy o gerddoriaeth fyw a gwreiddiol.
  • Cynyddu nifer y digwyddiadau cerddoriaeth fyw yn y ddinas.

Bydd ALLBWN / OUTPUT yn gweithio trwy liniaru’r risg ariannol sy’n gysylltiedig â hyrwyddo Digwyddiadau cerddoriaeth ar lawr gwlad. Bydd costau fel llogi lleoliad, system PA a ffioedd bandiau yn cael eu talu gan warant a gytunwyd yn erbyn colled sy’n golygu os na fydd gwerthiant tocynnau yn cyrraedd y lefel ofynnol i dalu’r costau hyn, byddwn yn gwneud iawn am y gweddill.

Meini prawf ALLBWN / OUTPUT:

  • Rhaid cynnal y gig yng Nghaerdydd mewn Lleoliad Cerddoriaeth ar Lawr Gwlad neu mewn gofod priodol.
  • Rhaid i’r gig fod yn ddigwyddiad lle mae angen talu am docyn.
  • Rhaid talu pob band.
  • Rhaid i gyfanswm y risg a warantir fod yn llai na £1,000.
  • Rhaid i’r pwynt adennill costau fod dan 80% o werthiant tocynnau.
  • Rhaid i’r rhan fwyaf o’r deunydd fod yn wreiddiol.
  • Mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod yn 18+.
  • Mae’n rhaid i’r digwyddiad gael ei gynnal cyn dydd Sul 2 Mawrth 2025.

CLICIWCH Y DDOLEN I GOFRESTRU EICH DIDDORDEB WRTH WNEUD CAIS

Mae ceisiadau ar agor tan 31 Ionawr 2025 a nodwch fod Telerau ac Amodau yn berthnasol.

CADWCH YN GYFOES

Cofrestrwch ar gyfer Dinas Gerdd Caerdydd i dderbyn diweddariadau cyffrous yn ymwneud â cherddoriaeth, digwyddiadau, pethau i'w gwneud a mwy gan y tîm. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn un o nifer o brosiectau gan Ddinas Gerdd Caerdydd, a reolir gan Gyngor Caerdydd.