Neidio i'r prif gynnwys

CMC: Canolfan Fawr Ddigidol yn Gyntaf Newydd

Gan Canolfan Mileniwm Cymru:

Rydyn ni’n llawn cyffro i ddatgelu cynlluniau ar gyfer canolfan berfformio ddigidol yn gyntaf arloesol, fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i ddyfodol creadigrwydd yng Nghymru.

Wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 20, bydd y ganolfan newydd hon yn chwyldroi tirwedd y celfyddydau digidol ac ymdrochol yng Nghymru a thu hwnt, gan roi platfform i adrodd straeon drwy dechnolegau newydd.

Bydd y safle newydd yn cynnwys gofod i archwilio pŵer profiadau ymdrochol – gyda lle i hyd at 550 o bobl, yn ogystal â chyfleusterau ar gyfer cynhyrchu, ymarfer a hyfforddi. Dyma fydd yr adeilad annibynnol cyntaf i ni ychwanegu ers i ni gael ein hagor gan y Frenhines Elizabeth II yn 2004. Wedi’i chynllunio i ddiwallu anghenion cyfnewidiol artistiaid a chrewyr sy’n defnyddio offer a thechnolegau newydd, bydd ein canolfan newydd yn gwella’n aruthrol ein rôl hanfodol yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru a’r DU.

Disgwylir i’r ganolfan newydd ymgysylltu â dros 10,000 o gyfranogwyr mewn hyfforddiant creadigol dros y pum mlynedd nesaf, gan alluogi ein rhaglenni ieuenctid cyfredol i dyfu, a darparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ac artistiaid greu, cyflwyno gwaith newydd a dysgu sgiliau newydd hanfodol. Gan gynnig mwy o le ar gyfer hyfforddi a chynhyrchu, bydd y cyfleuster hwn o safon fyd-eang yn grymuso cenedlaethau’r dyfodol o bobl greadigol i archwilio’r celfyddydau digidol ac ymdrochol a gwireddu eu lleisiau creadigol, yn ogystal â bod yn ganolfan cyflwyno a chynhyrchu o’r radd flaenaf.

Mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd, mae safle wedi’i glustnodi gyferbyn â’n hadeilad ar gyfer y fenter hon. Bydd y prosiect hwn yn rhan allweddol o ddatblygiad ehangach ‘Caerdydd Fyw’, a fydd hefyd yn cynnwys swyddfeydd newydd ar gyfer Cyngor Caerdydd, neuaddau arddangos ac ardaloedd cymunedol i’w rhannu. Mae’r lleoliad strategol hwn yn sicrhau y bydd y ganolfan newydd yn dod yn hwb canolog i’r celfyddydau digidol yng Nghymru, ac yn ganolfan flaenllaw yn y DU.

Fel rhan o’r broses comisiynu ar gyfer y ganolfan, byddwn ni’n lansio gwobr newydd i artist ddatblygu eu gweledigaeth dros gyfnod o flwyddyn. Bydd manylion pellach ynglŷn â’r fenter hon yn cael eu rhyddhau yn y flwyddyn newydd.

“Mae adrodd straeon yn datblygu drwy’r amser. Bydd y gofod newydd hwn yn parhau ein gwaith ar y croestoriad rhwng technoleg a’r celfyddydau, gan alluogi artistiaid i archwilio ac arbrofi gyda ffyrdd aml-gyfrwng o adrodd straeon. Bydd ei hyblygrwydd yn sicrhau bod gan artistiaid fynediad at adnoddau newydd sbon i wthio’r ffiniau wrth i offer a thechnolegau newydd ymddangos.”

Graeme Farrow, ein Prif Swyddog Creadigol a Chynnwys