Neidio i'r prif gynnwys

Cyllid newydd 'Dinas Gerdd Caerdydd' i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad

24 Medi 2024


 

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cefnogaeth ariannu newydd ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad Caerdydd fel rhan o’i waith ‘Dinas Gerdd Caerdydd’ i helpu i ddiogelu a gwella sin gerddoriaeth y ddinas, sydd hefyd yn gweld yr Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gyntaf erioed yn dechrau yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae’r gronfa, sy’n agored i bob lleoliad llawr gwlad yn y ddinas, yn cynnig grantiau cyfalaf o hyd at £10,000 tuag at wella lleoliadau.  

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  “Mae lleoliadau llawr gwlad Caerdydd yn chwarae rhan hanfodol ym myd cerddoriaeth y ddinas.  Maent yn darparu cyfleoedd pwysig i artistiaid lleol ddatblygu ac adeiladu cynulleidfaoedd, gweithredu fel canolbwynt i gymunedau, a helpu i wneud Caerdydd yn lle bywiog a chyffrous yr ydym yn ei hadnabod ac yn ei charu.”

“Mae’r gefnogaeth a gynigir gan y gronfa hon, ochr yn ochr â’r gwaith arall sy’n cael ei gyflawni drwy ein strategaeth gerddoriaeth – gan gynnwys Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd newydd, ein cefnogaeth i ailddatblygu Clwb Ifor Bach, cymorth a roddasom i Porters a Sustainable Studios pan oedd angen iddynt ddod o hyd i gartrefi newydd, a’n cynllun datblygu talent newydd Little Gigs – i gyd yn anelu at helpu i sicrhau eu bod yn gallu goresgyn yr heriau sy’n wynebu lleoliadau ledled y DU a pharhau i ffynnu wrth galon sîn gerddoriaeth Caerdydd.

Mae’r Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth y DU.

Am fwy o wybodaeth am Ddinas Gerdd Caerdydd, ewch i: https://dinasgerddcaerdydd.cymru/