Neidio i'r prif gynnwys

CYFARTALWR / EQUALISER

Dyddiad(au)

27 Med 2024 - 20 Hyd 2024

Amseroedd

18:30

Lleoliad

Caerdydd CF10

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae NeonBlack, rhan o’r y tîm creadigol y tu ôl i The Sphere yn Las Vegas ar fin syfrdanu ymwelwyr a phreswylwyr ym mhrifddinas Cymru pan fyddant yn dod â chelf gyhoeddus a goleuo arloesol i’r ddinas fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.

Bydd ffasâd gyfan adeilad Hugh James a’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn y Sgwâr Canolog yn cael ei drawsnewid yn olygfa weledol ddeinamig, ymatebol i gerddoriaeth a fydd yn para o noson 27 Medi tan 20 Hydref.

Gan addo bod yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl – bydd CYFARTALWR / EQUALISER yn defnyddio uwch-dechnoleg rheoli LED i greu ‘cyfartalwr graffig’ amser real ar ffasâd yr adeilad.

Mae’r prosiect arloesol hwn wedi’i ddylunio i ymateb i synau’r ddinas a rhestr chwarae cerddoriaeth Gymreig wedi’i churadu’n arbennig, a luniwyd gan DJ BBC 6Music, Huw Stephens.

“Rydym yn falch iawn o gynnal gosodwaith mor arloesol a chyfareddol fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd,” meddai’r Cynghorydd Jennifer Burke, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau. “Yn ogystal ag arddangos talent anhygoel yr artistiaid o Gymru y bydd eu cerddoriaeth yn gyfeiliant i’r profiad, bydd CYFARTALWR/EQUALISER yn goleuo’r Sgwâr Canolog, gan groesawu pobl i’r ŵyl a dathlu creadigrwydd rhyfeddol a sîn ddiwylliannol fywiog Caerdydd.”

Mae gan NeonBlack hanes o greu profiadau cyngherddau cyffroadol ledled y byd. Wedi’i sefydlu gan y dylunydd cynyrchiadau Dom Smith o Brighton, mae CYFARTALWR/EQUALISER yn waith y dylunwyr goleuadau o Gymru, Paul Johnson a Jon Barker. Mae eu gwaith ar y Sphere yn Las Vegas, sy’n enghraifft ryfeddol o beirianneg a dylunio modern, wedi gosod safonau newydd ar gyfer adloniant ymgolli.

“Mae CYFARTALWR/EQUALISER yn ddathliad o gydadwaith bywiog bywyd mewn dinasoedd,” meddai Jon Barker, Arweinydd Prosiect yn NeonBlack. “Gan ddefnyddio uwch-dechnoleg rheoli LED, mae’n trawsnewid yr adeilad yn gynfas goleuadau deinamig ac yn cynhyrchu sioe oleuadau amser real, sy’n ymateb i gerddoriaeth gan wahodd gwylwyr i weld adeileddau trefol fel gwrthrychau deinamig a rhyngweithiol. Mae’n brofiad gweledol a chlywedol sy’n adlewyrchu rhythm y ddinas, gan gyfuno anhyblygedd adeiladau â hylifedd cerddoriaeth a golau. Rydym yn gyffrous iawn i ddod â’r prosiect i Gaerdydd a bod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.”

Bydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn cael ei lansio ddydd Gwener, 27 Medi, ac mae’n ddathliad tair wythnos o gerddoriaeth ym mhrifddinas ffyniannus Cymru.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, nod yr ŵyl yw denu miloedd o ymwelwyr gyda rhestr amrywiol o artistiaid newydd ac eiconig, sgyrsiau’r diwydiant cerddoriaeth, a gosodweithiau syfrdanol. Bydd yr ŵyl yn trawsnewid Caerdydd yn ddinas gerdd, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau sefydledig ac anghonfensiynol ar draws y ddinas, gan ddathlu artistiaid sy’n gwthio ffiniau cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth.

Ar gyfer preswylwyr y ddinas, twristiaid cerddoriaeth a selogion y celfyddydau, mae CYFARTALWR/EQUALISER yn parhau ag ymdrech NeonBlack i archwilio rôl technoleg greadigol wrth drawsnewid mannau cyhoeddus.

Manylion y Digwyddiad:

  • Lleoliad: Adeilad Hugh James a’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Sgwâr Canolog, Caerdydd, Cymru
  • Dyddiadau: 27 Medi i 20 Hydref, 2024
  • Amserau: 6:30 pm i 11:59 pm bob dydd

CADWCH YN GYFOES

Cofrestrwch ar gyfer Dinas Gerdd Caerdydd i dderbyn diweddariadau cyffrous yn ymwneud â cherddoriaeth, digwyddiadau, pethau i'w gwneud a mwy gan y tîm. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn un o nifer o brosiectau gan Ddinas Gerdd Caerdydd, a reolir gan Gyngor Caerdydd.