Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl Sŵn yn Cyhoeddi Sŵn Cysylltu

Dydd Mercher 11 Medi 2024


GŴYL SŴN YN CYHOEDDI SŴN CYSYLLTU:
CYNHADLEDD ARBENNIG AR GYFER Y DIWYDIANT
GERDDORIAETH

BYDD SGYRSIAU A THRAFODAETHAU PANEL YN CAEL EU CYNNAL AR 18FED A 19EG HYDREF, 2024

YMYSG Y SIARADWYR MAE:

Philip Selway – Radiohead
Emily Pilbeam – BBC Introducing / BBC Radio 6 Music
Ed Lilo – Latitude Festival
Daniel Burgess – Domino Publishing

TOCYNNAU AR GAEL YMA

“Charming, a little slept on and flecked with magic.” – The Guardian

“Diverse and full of surprises.” – NME

“There’s something for everyone.” – DIY

“Sŵn Festival is setting the benchmark for festival line-ups and really hammers in a ‘no more excuses’
approach when it comes to diversity on line-ups… A perfectly run event, glued together by beautiful,
kind and community-driven people.” – Clash

Heddiw, fel rhan o raglen Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd mae Gŵyl Sŵn wedi cyhoeddi cynlluniau Sŵn Cysylltu, cynhadledd ddeuddydd i’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt. Bydd sgyrsiau a chyfleoedd rhwydweithio i artistiaid, y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant, y cyhoedd, a chynulleidfa Gŵyl Sŵn. Nod y digwyddiad yw pontio’r bwlch rhwng artistiaid o Gymru a’r diwydiant ehangach, gan roi cyfle i rannu arbenigedd a phrofiadau gyda chynrychiolwyr o’r sector yng Nghymru a’r DU.
Bydd cyfuniad o drafodaethau panel, siaradwyr gwadd a chyfarfodydd rhwydweithio yn Cornerstone, Caerdydd, ar 18fed a 19eg Hydref.

Ymhlith y siaradwyr sydd eisoes wedi’u cadarnhau mae drymiwr Radiohead Philip Selway, cyflwynydd a chynhyrchydd radio BBC 6 Music a BBC Introducing Emily Pilbeam, trefnydd artistiaid Gŵyl Latitude Ed Lilo, a datblygwr talent newydd Domino Publishing Daniel Burgess.

Yn ogystal â’r siaradwyr gwadd, mae Gŵyl Sŵn wedi dewis panel o 30 o fentoriaid o Gymru a ledled y DU. Bydd yr arbenigwyr hyn yn rhannu eu profiadau trwy sgyrsiau a sesiynau rhwydweithio, gan rannu cyfoeth o wybodaeth gyda’r mynychwyr.

Mae Sŵn Cysylltu yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd: dathliad tair wythnos o gigs, digwyddiadau ymdrochol, preswylfeydd, gosodiadau a phop-yps sy’n gwthio ffiniau arloesedd, perfformiad a thechnoleg cerddoriaeth.

Meddai Adam Williams, Pennaeth Rhaglennu a Chyfarwyddwr Creadigol Sŵn: “Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu ehangu ar gynhadledd Gŵyl Sŵn eleni fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Mae gennym weledigaeth o gysylltu artistiaid Cymreig â’r diwydiant cerddoriaeth ryngwladol ehangach trwy gynnal cyfarfodydd a sgyrsiau panel o safon fyd-eang dros y penwythnos.

Mae’r gynhadledd yn rhan o amserlen Gŵyl Sŵn, digwyddiad aml-leoliad sy’n cael ei chynnal ar draws y brifddinas o ddydd Iau 17 Hydref tan ddydd Sadwrn 19 Hydref.

Sefydlwyd yr ŵyl gan Huw Stephens yn 2007, ond ers 2018 tîm Clwb Ifor Bach sydd wrth y llyw. Eleni, bydd yr ŵyl tridiau yn cyflwyno perfformiadau mewn lleoliadau ar draws y ddinas, gan aros yn driw at weledigaeth graidd Sŵn sef meithrin talent leol, genedlaethol a rhyngwladol a chynnig llwyfan i artistiaid arddangos eu doniau.

Ymysg yr enwau a fydd yn ymddangos ym mhrif ŵyl darganfod cerddoriaeth Cymru eleni mae Adwaith, Buzzard Buzzard Buzzard, Das Koolies, English Teacher, Hannah Diamond, Mary in the Junkyard, Porij, Pys Melyn a Wu-Lu.

Mae’r ŵyl yn anelu i fod yn fwy hygyrch i’r gymuned ehangach flwyddyn yma. Mae cynlluniau talu, tocynnau consesiwn, mwy o gyfleoedd i gymryd rhan trwy’r rhaglen wirfoddoli a chynllun cais i chwarae newydd sbon ar gael.

Mae Tocynnau Sŵn Cysylltu ar gael am £10 am ddiwrnod neu £15 am ddeuddydd. Mae tocynnau Gŵyl Sŵn ar werth nawr gyda chynlluniau rhandaliadau ar gael.

CADWCH YN GYFOES

Cofrestrwch ar gyfer Dinas Gerdd Caerdydd i dderbyn diweddariadau cyffrous yn ymwneud â cherddoriaeth, digwyddiadau, pethau i'w gwneud a mwy gan y tîm. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn un o nifer o brosiectau gan Ddinas Gerdd Caerdydd, a reolir gan Gyngor Caerdydd.