Dydd Gŵyl Dewi Sant yn y brifddinas: Mae Sesiynau Dydd Gŵyl Dewi Caerdydd yn rhoi cerddoriaeth a lleoliadau Cymreig ar
Dydd Llun, 18 Chwefror 2026
Bydd Caerdydd yn nodi Dydd Gŵyl Dewi gyda dathliad o gerddoriaeth, diwylliant a lleoliadau annibynnol lleol wrth i ‘Sesiynau Dydd Gŵyl Dewi’ arbennig gael eu cynnal ledled y ddinas.
Mae’r rhaglen, sy’n rhedeg o Ddydd Gwener 27 Chwefror tan Ddydd Sul 1 Mawrth, yn dwyn ynghyd gyfres o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw mewn lleoliadau bach annibynnol law yn llaw â sesiynau Nosweithiau Marchnad arbennig a gaiff eu cynnal gan orsaf radio leol ddwyieithog, Radio Sudd, ym Marchnad Ganolog hanesyddol y ddinas.
Dwedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: “Mae cerddoriaeth wedi bod yn ganolog i ddiwylliant Cymru ers amser maith, ac mae hefyd yn ganolog i’n gweledigaeth ar gyfer dyfodol Caerdydd. Dyna pam roedden ni eisiau creu Sesiynau Dydd Gŵyl Dewi – dathliad modern ledled y ddinas sydd wedi’i wreiddio yn y diwylliant a’r gymuned Gymreig.”
Mae lleoliadau llawr gwlad fel Chapter, The Canopi, Fuel, Paradise Garden a Porter’s yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi artistiaid lleol a meithrin talent gerddorol Cymru ac maent yn ganolog i’r dathliad – gan groesawu artistiaid fydd yn cynnwys Ani Glass, y band nu-metal dwyieithog Celavi, a’r band roc seicadelig Spwci.
Ynghyd â’r rhaglen leoliadau, bydd Marchnad Caerdydd yn agor ei drysau wedi iddi nosi am ddwy noson o sesiynau acwstig a setiau DJ o dan ei tho gwydr enwog. Gan gyfuno cerddoriaeth, bwyd stryd o ystod eclectig y farchnad o fasnachwyr annibynnol gan gynnwys The Bearded Taco, Ya Souvlaki, Bao Selecta, Ffwrnes Pizza a mwy, ynghyd ag awyrgylch unigryw un o fannau cyhoeddus hanesyddol Caerdydd, mae’r Nosweithiau Marchnad yn argoeli i fod yn brofiad Gŵyl Dewi arbennig.
Ariennir Sesiynau Dydd Gŵyl Dewi gan Gronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU ac maent yn rhan o waith Dinas Gerdd Cyngor Caerdydd, sy’n cydnabod cerddoriaeth fel rhan allweddol o hunaniaeth ddiwylliannol y ddinas a’i nod yw cryfhau’r ecosystem gerddoriaeth leol ar bob lefel.
Mae rhagor o fanylion am Sesiynau Dydd Gŵyl Dewi ar gael yma: https://dinasgerddcaerdydd.cymru/sesiynau-dewi-sant/