Swydd Newydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnyrch

NEWYDDION GAN PYST:

Wyt ti’n angerddol am gerddoriaeth Cymru ac yn hoffi cyfathrebu, marchnata a gweithio gyda phobl greadigol?
Mae PYST yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Chynnyrch i ymuno â’n tîm bach brwdfrydig yng Nghaerdydd.

 

🔹 Wythnos waith 4 diwrnod (80%) gyda 100% o’r cyflog a’r buddion
🔹 Cymraeg yn hanfodol
🔹 Rôl amrywiol gyda dylanwad gwirioneddol ar brosiectau cerddorol Cymru
🔹 Gwaith hybrid a ffocws cryf ar les

 

Mae hon yn swydd newydd, gyffrous sydd yn gofyn am unigolyn trefnus, profiadol a brwdfrydig sydd yn meddu ar sgiliau arweinyddol a chyfathrebu cryf, a dealltwriaeth drylwyr o ddiwydiant cerddorol Cymru ynghyd ac adnabyddiaeth gyffredinol o’r celfyddydau yng Nghymru.

 

Dyddiad cau: Dydd Llun, Chwefror 9ed 17:00

 

Darganfyddwych mwy