Sound Progression yn Recriwtio ar gyfer Swydd Newydd Hyfforddai Rheolwr Artistiaid
Mae Sound Progression, un o brif sefydliadau cerddoriaeth ieuenctid Cymru, wedi agor ceisiadau ar gyfer rôl newydd Hyfforddai Rheolwr Artistiaid fel rhan o’i raglen InMotion2Industry, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Ed Sheeran Foundation.
Mae’r cyfle llawrydd blwyddyn o hyd hwn yn cynnig profiad ymarferol i rywun sy’n dymuno datblygu gyrfa greadigol, ac sydd â diddordeb mewn meithrin sgiliau ymarferol mewn rheoli artistiaid, cynllunio ryddhau cerddoriaeth, marchnata digidol, cydlynu digwyddiadau byw a rhwydweithio yn y diwydiannau creadigol. Mae’r rôl yn cynnwys mentora strwythuredig gan dîm arweinyddiaeth Sound Progression, ynghyd â chyngor gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant.
Wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, mae Sound Progression yn darparu mwy na 150 awr o weithgaredd cerddoriaeth am ddim bob wythnos ar draws saith canolfan Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd. Mae’r sefydliad yn cefnogi pobl ifanc 11–25 oed i ddatblygu hyder, sgiliau ac hunaniaeth artistig. Mae gan Sound Progression hanes cryf o feithrin talent newydd, gan gynnig llwyfannau trwy sioeau, gwyliau a phartneriaethau gyda lleoliadau fel Clwb Ifor Bach, Green Man, Big Love ac In It Together.
Bydd yr Artist Manager Trainee yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi hyd at wyth o artistiaid newydd yng Nghymru i adeiladu eu proffiliau, rhyddhau cerddoriaeth newydd a datblygu eu gyrfaoedd. Nod y rhaglen yw ehangu mynediad at y diwydiannau cerddoriaeth drwy greu llwybrau newydd, cynhwysol tuag at gyflogaeth ac arfer proffesiynol.
Manylion YMA
(Cyngor Celfyddydau Cymru)