Swyddi gwag: Rheolwr Marchnata
Teitl y Rôl: Rheolwr Marchnata
Cyflog: £31,405 – 33,060 y flwyddyn
Oriau Gwaith: 35 awr yr wythnos
Math o Gytundeb: Parhaol
Dyddiad Cau: 8/01/2026
Dyddiad Cyfweld: TBC
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae’r tîm Marchnata yn gyfrifol am feithrin a chynnal nifer gynaliadwy o gynulleidfaoedd ac ymwelwyr achlysurol ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau a chwsmeriaid ynghyd â datblygu ein henw da yn y parth cyhoeddus. I wneud hyn, rydym yn cynhyrchu deunydd marchnata i gyfleu ein cynigion cynhyrchu incwm yn ogystal â’n gweledigaeth elusennol ac artistig. Mae gennym hefyd ymrwymiad i sicrhau dull dychmygus o werthfawrogi a datblygu diwylliant a hunaniaeth Cymru ym mhob agwedd ar ein gweithgareddau.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau
Bydd gan y Rheolwr Marchnata gyfrifoldeb dros weithredu a goruchwylio ymgyrchoedd sy’n cysylltu cynulleidfaoedd gyda’n rhaglen. Prif ddiben y rôl yw arwain ar ymgyrchoedd marchnata cynyrchiadau ar raddfa fawr sy’n ymddangos yn ein Theatr Donald Gordon. Bydd deiliad y swydd yn adrodd i’r Uwch Reolwr Marchnata ac yn rhan o dîm bach sy’n canolbwyntio ar ddenu cynulleidfaoedd i’n rhaglen er mwyn sicrhau’r gwerthiant tocynnau mwyaf posibl, a hynny drwy farchnata digidol a phrint, ymgyrchoedd creadigol a strategaethau tocynnau.