Mae IN TUNE yn gyfres o sesiynau rhwydweithio rhithiol AM DDIM i weithwyr Anabl, Niwro-Awrywiol a Byddar yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.
DYDDIADAU
- Sesiwn 1 – Saesneg a BSL – (6pm to 8pm) 4ydd Rhagfyr 2025
- Sesiwn 2 – Cymraeg a BSL – (6pm to 8pm) 18fed Rhagfyr 2025
- Sesiwn 3 – Saesneg a BSL – (6pm to 8pm) 8fed Ionawr 2026
- Sesiwn 4 – Cymraeg a BSL – (6pm to 8pm) 15fed Ionawr 2026
SIARADWYR GWADD ARBENNIG A PHITSIO’N GYFLYM
Mi fydd pob sesiwn rhwydweithio yng nghynnwys areithiau gan westai cerddoriaeth arbennig, a fydd yn rhannu eu profiad o weithio yn y sector cerddoriaeth fel rhywun anabl. Mae hyn yn cynnwys May Swoon, Mali Haf a Jonny Cotsen.
Ydych chi’n chwilio am gydweithwyr am brosiect cyffrous newydd? Cofrestrwch am un o ein slotiau Pitsio’n Gyflym, lle fydd gennych chi 5 munud i siarad am eich gwaith yn y sesiwn.
MEINI PRAWF MYNYCHWYR
Mae’r digwyddiad hwn i bobl sydd yn uniaethu fel rhywun Anabl, â Salwch Cronig, Niwro-Amrywiol, Byddar, neu gydag unrhyw fath o gyflwr Iechyd neu anhwylder arall.
Does ‘na ddim angen diagnosis gennych chi i fynychu.
Mae rhaid byw neu weithio yng Nghymru.
Os ydych chi’n dod a gofalwr, does ‘na ddim rhaid iddyn nhw brynu ticed.
Manylion YMA
(Cyngor Celfyddydau Cymru)